Calon/Canol Cymru
Slogan hysbysebion newydd S4C yw “Calon Cenedl”. Mae’n awgrymu bod S4C yn ganolbwynt i’r wlad. Dwn’im faint o wir sydd na i’r datganiad yna – ond o ran daearyddiaeth, lle mae calon Cymru?
Cyn gallu ateb y cwestiwn, dwi ‘di cymryd mai calon = canol (dwi’n gwybod bod y galon ddim cweit yng nghanol y corff – ond ar gyfer be da ni angen, mae’n OK).
Esi ati felly a llwytho tirfas Cymru i mewn i’n system GIS ac ar ôl ychydig o bendroni – daeth allan a’r ateb.
Felly ble mae canol Cymru? – drum roll plis…..
Plas Gogerddan, ychydig i’r dwyrain o Aberystwyth!
(Clic YMA am Google Map)
Nawr, pob parch i Blas Gogerddan – ond mi o’n i’n disgwyl rhywbeth ychydig mwy dramatig (e.e. Rhyw hen gastell ble mae Brenin Arthur a’i filwyr yn aros i achub y dydd, copa rhyw fynydd hynafol, ogof ddwfn ble mae’r Ddraig Goch yn cysgu ayyb)!
I weld y lleoliad, a chanolbwyntiau pob sir – cliciwch ar y llun isod i gychwyn y map rhyngweithiol:
Mae’r data hefyd ar gael ar Google Maps yma:
I’r rhai dewr yn eich plith sydd eisiau her – be am deithio i galonnau Cymru? (23 i gyd). Dyma’r cyfesurynnau sydd eu hangen ar gyfer eich map/sat nav (OS Grid yn y cromfachau).
Cymru = 52.43517169,-4.010846493 (263398,283812) Map
Abertawe = 51.65644502,-4.000336388 (261727,197190) Map
Blaenau Gwent = 51.75365181,-3.185871601 (318240,206771) Map
Bro Morgannwg = 51.4475492,-3.400128485 (302798,172992) Map
Caerdydd = 51.50171515,-3.19151652 (317393,178759) Map
Caerffili = 51.65002249,-3.197519448 (317247,195259) Map
Casnewydd = 51.57179445,-2.974387919 (332568,186330) Map
Castell-nedd Port Talbot = 51.64454457,-3.746349662 (279263,195416) Map
Ceredigion = 52.29785812,-3.955200423 (266768,268437) Map
Conwy = 53.14837486,-3.746518576 (283293,362673) Map
Gwynedd = 52.99856698,-4.109017259 (258561,346663) Map
Merthyr Tudful = 51.74877093,-3.364329893 (305911,206444) Map
Pen-y-bont ar Ogwr = 51.56029736,-3.617125306 (287997,185841) Map
Powys = 52.34850602,-3.435550303 (302313,273240) Map
Rhondda Cynon Taf = 51.62185766,-3.413562075 (02240,192394) Map
Sir Benfro = 51.90125571,-4.902265906 (200432,226505) Map
Sir Ddinbych = 53.08835234,-3.347625176 (309843,355419) Map
Sir Fynwy = 51.7780949,-2.902769906 (337815,209210) Map
Sir Gaerfyrddin = 51.8903557,-4.210486724 (247981,223620) Map
Sir y Fflint = 53.21781165,-3.143141693 (323767,369582) Map
Tor-faen = 51.69841094,-3.050992344 (327461,200485) Map
Wrecsam = 53.00159437,-2.991955148 (333529,345379) Map
Ynys Môn = 53.27882528,-4.345742358 (243699,378327) Map
Mae’r data hefyd ar gael fel ffeil KML (Linc)
Hwyl
Dafydd
Ma hwn yn ossym! Diolch 🙂 Dwi’n mynd i redeg yn y goedwig fach na wrth calon Cymru reit aml. Fydd na mystique ychwanegol rwan!!
Diolch! Sori bo fi’n araf yn cymeradwyo’r ymateb – yr ebost wedi ddal yn sbam filter google am ryw reswm! Compiwtars de! 🙂