Cyfrifiad2021

Mapiau Cyfrifiad 2021 – 2021 Census Maps

Dwi wedi bod yn mapio’r data Cyfrifiad 2021 fel mae’n dod ar gael gan yr ONS. Dwi’n eu postio ar twitter a facebook fel arfer, ond meddyliais y bysai’n syniad da eu casglu mewn un lle. Mi wnâi ddiweddaru’r dudalen hon gydag unrhyw fapiau cyfrifiad newydd ayyb, fel mae’r data craidd yn dod ar gael.

I’ve been mapping the newly released 2021 ONS census data as it becomes available. I usually post these on twitter and Facebook, but I though it best to collect them all in one place for future reference. I’ll update this page with any new maps etc that I create as new data becomes available.

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Nawr bod yr ONS yn cychwyn rhyddhau data Cyfrifiad 2021, dwi wedi bod yn mapio y ffigyrau newydd.

Un o’r rhai cyntaf oedd map yn dangos canran y poblogaeth a aned yng Nghymru:

Y syniad oedd trio creu rhyw fath o fraslun o fewnfudo yng Nghymru.

Cyfrifiad 2021 – % Y Poblogaeth Wedi Eu Geni Yng Nghymru

Cyfrifiad 2021 – % Y Poblogaeth Wedi Eu Geni Yng Nghymru

Mae canlyniadau cyfrifiad 2021 yn cychwyn cael eu rhyddhau yn araf ar ôl misoedd o waith cyfri a cyfrifo. Mae’r batch cyntaf yn ymwneud yn bennaf gyda demograffeg ac ymfudo.

Er bod y data llawn ddim ar gael, dwi ‘di creu ambell fap i ddangos be di’r sefyllfa yng Nghymru nawr, a sut mae pethau wedi newid ers 2011.