Wel, ma’r blog ‘ma i fynu o’r diwedd.
Do ni’m di meddwl cynnwys un i gychwyn – dim ond rhywle i gadw ‘chydig o waith oedd y wefan yma i fod – ond gobeithio fydd y blog yn ddefnyddiol i gadw nodiadau a ballu.
Un peth nes i sylweddoli wrth baratoi y safle oedd bod y canllawiau sydd ar gael ar gyfer creu blog iaith Gymraeg ‘chydig yn ddryslyd.
Yn fras – mae’r pecyn iaith sydd ar y dudalen swyddogol WordPress Cymraeg (linc) yn cynwys pob ffeil sydd angen ar gyfer creu blog Cymraeg o’r newydd. Ond – i gyfiaethu blog sydd yn bodoli yn barod – dim ond y ffeiliau sydd o fewn “wordpress\wp-content\languages” sydd angen eu cadw, a’i copio i’r serfer.
Pwynt arall aneglur oedd sut i newid y ffeil wp-config.php i gadarnhau’r newid iaith. Yn ôl y dudalen swyddogol (linc) – mae rhaid cynwys côd gwlad cywir i pob cofnod e.e.
define ('WPLANG', 'cy_GB');
Ond, am rhyw reswm – ar gyfer y pecyn Cymraeg – dim ond hyn sydd angen:
define ('WPLANG', 'cy');
Petha bach – ond ella sa’n gallu bod o fydd i rhywun rhywdro.