datblygu

API Data “Ar Y Dydd Hwn…” Wicipedia Cymraeg

Casglu Data Gyda YQL

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn chware o gwmpas gydag adnodd datblygu YQL gan Yahoo (https://developer.yahoo.com/yql/). Mae’n galluogi ni ddefnyddio iaith debyg iawn i SQL i dynnu data allan o wefannau ayyb.

Mae’n werth trio allan y consol datblygu i gael gweld sut mae’n gweithio (https://developer.yahoo.com/yql/console/)

Ar ôl chware o gwmpas gyda’r consol – mi es ati i chwilio am brosiect diddorol ar ei gyfer.

Tuedd Twitter

Tuedd Twitter – Ap Cymraeg

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn arbrofi gyda API’s twitter i greu aps a dehongli data.

Yr un cyntaf yw hwn – “Tuedd Twitter”. Yn syml, mae’r ap yn dychwelyd data hyd at y 200 twît olaf, ai dehongli i weld patrymau twîtio’r defnyddiwr.

Cymreigio.js

Ers tipyn nawr, dwi wedi bod yn arbrofi gyda datblygu apps Cymraeg, y rhan amlaf gan ddefnyddio API’s neu ddata o wefanau megis twitter neu Flickr.
Un broblem cyffredin gyda defnydio’r API’s yma yw bod y data yn dod yn ol yn Saesneg, a mae nagen ei gyfiaiethu bob tro i’r Gymraeg cyn y gellir eu ddangos.

I hwyluso’r broses, dwi wedi casglu ychydig o’r dulliau javascript yma mewn llyfrgell o’r new Cymreigio.js. Mae’n lyfrgell syml iawn (dwi’m yn saer javascript o bell ffordd!), ond efallai fydd o ddefnydd i rhywun sydd yn datblygu ap neu wefan Cymraeg.

Mae’r llyfrgell yn “work in progress” – ar hyn o bryd mae yna ddulliau yna i gyfieithu enwau dyddiau a misoedd, yn ogystal a dychwleyd enw’r mis o’r rhif. (e.e. 10 = Hydref).

Y syniad yw adio mwy o dermau i’r llyfrgell fel dwi’n datblygu mwy.

 

I gael gweld sut mae’n gweithio – Mae enghreifftiau buw ar y dudalen yma:

https://www.dafyddelfryn.cymru/gwaith/cymreigio/

 

Mae mwy o fanylion ar y wefan Github yma:

https://github.com/dafyddelfryn/cymreigio/wiki/Cartref