Graffiau

Enwau Cymraeg Poblogaidd

Cofnod bach sydyn heddiw.

Mae’r ONS newydd gyhoeddi’r rhestr o’r enwau mwyaf poblogaidd ar gyfer bechgyn a merched yn y flwyddyn olaf.

Mae’r rhestr lawn (linc) yn dangos mai Oliver ac Amelia yw’r enwau mwyaf poblogaidd yng Nghymru – ond dwi wedi mynd rwy’r rhestr i drio canfod yr enwau Cymraeg mwyaf poblogaidd – mae’r canlyniad yn y siartiau isod.

Be sy’n creu Eisteddfod Llwyddiannus?

Yn y post olaf ar y blog yma, mi wnes i fapio holl leoliadau’r Eisteddfod Genedlaethol, a dadansoddi ychydig o ffeithiau. (linc)

Ar ôl ei gyhoeddi, ges i sylw diddorol arno gan Ifan Morgan (linc), yn holi os oedd modd defnyddio’r data i ddarganfod y lle mwyaf delfrydol i gynnal Eisteddfod.

Mi benderfynais dderbyn yr her, a gan ddefnyddio’r ffigyrau am y nifer o ymwelwyr o flog Ifan (linc) a’r data sydd ar gael o wefan StatsWales ac ONS– es i ati i weld pa ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar lwyddiant Eisteddfod – a gobeithio darganfod y lle perffaith i gynnal y sioe yn y dyfodol

Prisiau Tai Cymru – Rhan 2

Prisiau Tai Cymru – Rhan 2

Yn y post olaf ar y blog (Linc Rhan 1) fues i’n defnyddio data’r gofrestrfa tir i edrych ar y farchnad tai yng Nghymru dros y cyfnod 2007 i 2014. Erbyn hyn, dwi wedi cael mwy o amser i ddadansoddi’r data i lawr i lefel ward, a drwy ddefnyddio data cyflogau, trio darganfod ble mae’r ardaloedd fwyaf fforddiadwy ac anfforddiadwy yng Nghymru. 

Prisiau Tai Cymru

Prisiau Tai Cymru

Yn ôl y newyddion, mae prisiau tai yn prysur gynyddu, a’r farchnad yn tyfu i’r un lefel a welwyd yn ystod y “boom” mawr yn 2007 (Linc1) (Linc2).

Wrth gwrs, dyw’r farchnad tai yng Nghymru ddim yn dilyn yr un tuedd a’r farchnad yn Lloegr (ac yn bendant ddim fel Llundain). Fel rheol, mae’n cymryd amser i unrhyw gynnydd dreiglo drwodd i’r farchnad yma.
I gael gwell syniad o beth sydd yn mynd ymlaen yma, es i wefan y Gofrestrfa Tir (Land Registry) a lawrlwytho’r data gwerthiant tai o 2007 hyd heddiw. Dwi wedi dadansoddi’r data isod.

Adolygu Ffigyrau’r Telegraph

Ddoe (5/6/14) ymddangosodd erthygl yn y Telegraph (linc), gyda pennawd brawychus yn rhybuddio y gall y Cymry fod yn leiafrif yn eu gwlad ei hunain.

“Welsh could become a minority in Wales as English set sights west”

Nawr – swn i byth yn trio dweud y bysa papur newydd yn printio pennawdau trawiadol fel hyn jyst i werthu mwy o gopiau – ond o ni’n awyddus i gael gweld y dystiolaeth i fi fy hun. Yn anffodus – dyw’r erthygl ddim yn rhoi cyswllt i’r data craidd (dim ond crybwyll na’r ONS oedd wedi ei gyhoeddi) – na chwaith rhoi manylion ar bwy sydd wedi bod yn edrych drwy’r data. Mae’n amhosib felly cael pori’r drwy’r ffigyrau i gadarnhau ac studio ei canlyniad.

3 of 3
123