Mapiau

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Bob chwarter, mae’r llywodraeth yn rhyddhau data am hunaniaeth genedlaethol poblogaeth Cymru. Mae’r data yn cynnwys canran poblogaeth pob sir sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.

Dwi wedi mapio’r data yma i greu darlun o hunaniaeth Cymru yn 2019.

Mapio Tai Gwyliau Cymru

Mapio Tai Gwyliau Cymru

Sbel yn ôl, nes i bostio map ar Twitter yn dangos niferoedd unedau gwyliau o fewn wardiau Cymru.

Nes i’m disgwyl fysa’r map yn cael gymaint o sylw! – a ges i ddipyn o bobl yn holi am fwy o wybodaeth am y data craidd, be oedd yn cael ei ddangos, ac am fapiau gwahanol ayyb.

Di Twitter ddim yn grêt o le i ateb cwestiynau a cael trafodaeth iawn, felly dwi wedi trio rhoi mwy o wybodaeth lawr ar y blog yma. Gobeithio neith o ateb ychydig o’r cwestiynau a gododd, a chyflwyno ychydig mwy o wybodaeth.

Mapio Eisteddfod Yr Urdd

Mae’n amser eisteddfod yr Urdd eto – felly be well na map arall!! Mae’r un isod yn dangos lleoliad pob Eisteddfod Yr Urdd ers 1929 i 2020. (cliciwch i gael y feriswn llawn)

map urdd

Map Urdd

Mapio Enwau Cymraeg Cymru

Mae’n ddiwrnod ieithoedd lleiafrifol Ewrop heddiw, felly dwi wedi penderfynu rhyddhau prosiect mapio bach dwi wedi bod yn datblygu. Y nod yw casglu’r enwau lleol mae pobl yn eu defnyddio am eu cynefin ac yr ardal o’i hamgylch.

Mapio Enwau – Rheilffyrdd

Dwi wedi creu salw map yn ddiweddar yn seiliedig ar enwau llefydd yng Nghymru e.e. pob Aber, Llan ayyb. I greu’r mapiau yma, dwi wedi bod yn defnyddio rhestr enwau OS Opendata (ar gael am ddim yma – linc).

Mae’r map isod yn dangos pobman yng Nghymru sydd â chysylltiad a’r rheilffordd. Y tro yma, dwi wedi cynnwys enwau strydoedd hefyd:

Map Rheilffyrdd

Map Rheilffyrdd


Mae’r enwau yn cynnwys “Gorsaf”, “Station”, “Rheilffordd” a “Railway”. Mae’r rhestr llawn isod:

Map OS Cymraeg

Map OS Cymraeg

Ers ychydig nawr, pan dwi’n cael rhyw bum munud sbâr, dwi wedi bod yn cyfieithu data map Miniscale yr Ordnance Survey i Gymraeg (wel, y darnau yng Nghymru o leiaf)

Mae’r data MiniScale i gael am ddim dan drwydded data agored OS (linc), Yr oll dwi wedi gwneud ydi cyfieithu’r labeli enwau i Gymraeg.

2 of 5
12345