Stats

Adnoddau Mapio Etholiad / Election Mapping Resources

Gyda’r etholiad cyffredinol dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd, nes i greu y map rhyngweithiol isod i help egluro pwy sydd yn sefyll ymhob etholaeth:

Roedd rhaid i mi gasglu data o wefannau yr ONS ac DemocracyClub at ei gilydd ar gyfer creu y map, a dwi wedi cynnwys linc i’r data yma isod rhag ofn bydda nhw o ddefnydd i unrhyw un arall sydd eisiau mapio rhywbeth yn ystod y cyfnod etholaeth yma.

Mae’r ffeil csv yn rhestru’r unigolion sydd yn sefyll ymhob etholaeth, ac mae’r ffeil zip GIS yn cynnwys y data daearyddol sydd ei angen. Mae’r ffeiliau yn ddwyieithog.

(Defnyddiwch right-click a save as)

Rhestr Ymgeisydd (22kb)

Zip Data Daeryddol (7Mb)

(Mi fyddai yn diweddaru y ffeiliau yn awtomatig os bydd unrhyw newid)


With the general election only a few weeks away, I made the interactive map above to show who’s standing in each constituency.

In building the system, i had to collate data from the ONS and DemocracyClub. I’ve made that data available below for anyone else that wanted to map election data.

The csv file lists all of the candidates, and the zipped GIS file has the spatial data for the Welsh constituency. The data in both files are bilingual.

(Right-click then use save as)

Candidate List (22kb)

GIS Data Zip File (7Mb)

(I will be updating these files automatically if any changes occur)

Siart Râs Coronavirus Cymru

Siart Râs Coronavirus Cymru

Fel arbrawf bach, dwi wedi defnyddio data niferoedd achosion Coronavirus Byrddau Iechyd Cymru i greu siart râs yn dangos y tyfiant dros amser. Mae siartiau fel hyn wedi dod yn boblogaidd iawn dyddiau ‘ma, a ma nhw’n ffordd effeithiol o ddangos tyfiant.

Nai drio diweddaru fo mewn sbel hefo mwy o ddyddiadau ayyb.

Hwyl am y tro
Dafydd

Coronavirus – Cymru A’r Byd

Coronavirus – Cymru A’r Byd

Deg Gwlad Uchaf

Mae prifysgol John Hopkins yn yr UDA wedi creu gwefan hynod ddiddorol yn cymharu achosion coronavirus ar draws y byd, gan edrych yn bennaf ar y ddeg wlad sydd hefo’r nifer mwyaf o achosion (LINC)

Fel sydd yn digwydd bob tro, mae’r ffigyrau Cymru yn cael ei cynnwys fel rhan o’r DU. Nes i feddwl sa’n ddiddorol cael gweld sut mae Cymru (a gwledydd eraill y DU), yn cymharu yn erbyn gweddill y 10 uchaf. Mae’r blog bach sydyn yma yn crynhoi y ffigyrau yna.

Coronavirus Cymru

Coronavirus Cymru

Y Coronavirus Yng Nghymru

SCROLL DOWN FOR ENGLISH VERSION

Da ni yng nghanol cyfnod hollol unigryw yn hanes Cymru. Mae’ ysgolion i gyd wedi cau, busnesau wedi cloi a mae’r poblogaeth i gyd o dan lockdown.

Y coronavrus ydi’r unig stori sydd yna ar y newyddion, ond, fel sy’n digwydd yn rhu aml, mae’r rhan fwyaf o’r straeon, ffigyrau a gwybodaeth da ni’n gael yma wedi ei ffiltro unai drwy berspectif Prydeinig, neu Lloegr.

Ar ddechrau’r pandcmic, fe greodd Public Health England ddashffwrdd rhyngweithiol er mwyn i’r cyhoedd gael dilyn y datblygiadau. Yn anffodus, chawson ni ddim byd tebyg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), felly nes i benderfynu creu un fy hun!

Millenials Vs Boomers Cymru

Millenials Vs Boomers Cymru

Mapio’r Millenials a Boomers

Mae’r mapiau isod yn dangos y canran o Boomers a Millenilas sydd ymhob LSOA yng Nghymru. Dwi wedi defnyddio data blwyddyn geni cyfrifiad 2011 i greu’r mapiau (linc).

Dwi wedi defnyddio’r blynyddoedd geni canlynol:

Millenials = 1981 – 1996

Boomers = 1946 – 1964

(Mae’r blynyddoedd geni yma yn gallu newid yn dibynnu ar y ffynhonnell – nes i ddefnyddio’r data o’ wefan Pew Research)

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019

Bob chwarter, mae’r llywodraeth yn rhyddhau data am hunaniaeth genedlaethol poblogaeth Cymru. Mae’r data yn cynnwys canran poblogaeth pob sir sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.

Dwi wedi mapio’r data yma i greu darlun o hunaniaeth Cymru yn 2019.

Mapio Tai Gwyliau Cymru

Mapio Tai Gwyliau Cymru

Sbel yn ôl, nes i bostio map ar Twitter yn dangos niferoedd unedau gwyliau o fewn wardiau Cymru.

Nes i’m disgwyl fysa’r map yn cael gymaint o sylw! – a ges i ddipyn o bobl yn holi am fwy o wybodaeth am y data craidd, be oedd yn cael ei ddangos, ac am fapiau gwahanol ayyb.

Di Twitter ddim yn grêt o le i ateb cwestiynau a cael trafodaeth iawn, felly dwi wedi trio rhoi mwy o wybodaeth lawr ar y blog yma. Gobeithio neith o ateb ychydig o’r cwestiynau a gododd, a chyflwyno ychydig mwy o wybodaeth.

Pa mor wledig yw Cymru?

Pa mor wledig yw Cymru?

Metro Gogledd Cymru

Pan gyhoeddodd Llafur eu cynlluniau am y Metro Gogledd Cymru, fe gododd dipyn o stŵr, gyda nifer yn synnu bod Gogledd Cymru yn cwmpasu Lerpwl, Caer a gorffen yn Rhyl!

Metro Gogledd Cymru

Mae llafur wedi amddiffyn y cynllun gan ddweud bod y Metro yn “urban concept” a bod gweddill gogledd Cymru yn rhu wledig, a bod angen “rural solution” gwahanol

Labour’s plan for a north Wales metro transport system excludes Anglesey, Gwynedd and Conwy because it is an “urban concept” for heavily populated areas, the first minister has said.

Carwyn Jones told BBC Wales the north-west needed “rural solutions” instead.

(Linc i’r erthyl llawn yma – Linc)

Nes i gychwyn meddwl, sut mae mynd ati i ddarganfod lle sydd yn drefol (urban) a lle sydd yn wledig (rural) a sut mae’r rhaniad yma yng Nghymru. Dwi wedi crynhoi’r canlyniadau yn blog bach yma.

1 of 4
1234