Etholiad 2015 – Chwilota drwy’r Datganiadau
Chwilota dwy’r Datganiadau
Cymru
Gyda ni ar drothwy etholiad 2015, nes i feddwl gweld pa mor aml mae datganiadau’r pleidiau mawr yn cyfeirio at Gymru. Dyma’r canlyniadau:
(er gwybodaeth – mi wnes i ddefnyddio fersiynau PDF Saesneg pob plaid i drio cael rhyw fath o gysondeb. Hefyd, dim ond chwilio am y geiriau wnes i, dim eu darllen i gyd!!)
Wrth gwrs, dim syndod mai Plaid Cymru fysa ar y blaen, ond o ni wedi dychryn gweld o faint! Rhyfedd hefyd gweld Llafur, sydd gyda’r nifer fwyaf o seddi yng Nghymru, gyda chyfanswm gweddol isel o 11 – dim ond 2 yn fwy na UKIP!
Lloegr
Er tegwch, mi wnes i hefyd edrych ar sawl gwaith mae’r termau England/English a Scotland/Scottish yn ymddangos. Yn gyntaf, canlyniad Lloegr:
Eto, yn rhyfedd, Llafur sydd yn y gwaelod, gyda dim ond 18 cyfeirnod – is hyd yn oed na Phlaid Cymru!
Yr Alban
Dyma ganlyniad yr Alban:
Eto fyth, llafur sydd yn y gwaelod gyda 8, un yn llai na UKIP y tro yma!
Prydain
Yn olaf, mi wnes i edrych am y term British/Britain:
Yma, mae UKIP yn bell ar y blaen, gyda 231 cyfeiriad, gyda’r ceidwadwyr yn ail gyda 150. Eto, mae Llafur yn eithaf isel ar 74, gyda dim ond Plaid a’r Gwyrddion yn is.
Tybed os yw hwn yn gynllun pwrpasol gan Lafur i osgoi edrych fel plaid sydd yn ffafrio un wlad? Gadewch mi wybod be da chi’n feddwl.
Hwyl
Dafydd