Cymharu Cymru a’r Alban
Y ddadl fawr ar y teledu, y wasg ac ar wê nawr yw am refferendwm annibyniaeth yr Alban. Mae gan bawb ei farn, ac mae’r ddwy ochr yn dadlau mai nhw sydd yn iawn – a bydd yr Alban yn well yn ei dwylo nhw.
Yn sgil hyn wrth gwrs, mae’r sgwrs yma yn symud ymlaen i annibyniaeth Cymru. Os yw’r Alban yn llwyddiannus, ydi hyn yn golygu mae ni fydd nesaf. Fedrwn ni ddilyn esiampl yr Alban? – ta ydi’r sialensiau sydd yn wynebu’r Alban yn wahanol i be fysa’n wynebu ni?
O ran diddordeb, es i ati i ddefnyddio’r ffigyrau sydd ar gael i weld pa mor debyg (neu annhebyg) yw’r ddwy wlad.
Dwi wedi cymryd ffigyrau Cymru a’r Alban o wefannau ONS, NOMIS a StatsCymru a’u cymharu gyda’i gilydd.
(Er gwybodaeth – dwi o blaid annibyniaeth i’r Alban, a dwi’n gobeithio un diwrnod bydd Cymru hefyd yn annibynnol. Serch hynny – dwi wedi trio cyfleu’r wybodaeth yma heb unrhyw ffafriaeth naill ffordd)
Daearyddiaeth
Y gwahaniaeth mwyaf amlwg rhwng y ddwy wlad yw ei maint. Mae’r Alban bron iawn yn bedair gwaith mwy na Chymru o ran arwynebedd, gyda 78,387km2 i gymharu â 20,761km2 i Gymru.
Er y gwahaniaeth mawr mewn arwynebedd – os nawn ni gyfrifo’r dwysedd poblogaeth (h.y faint o bobl sydd yn byw ymhob km sgwâr) da ni’n gweld fod Cymru dipyn mwy dwys na’r Alban – sy’n gwneud synnwyr wrth feddwl am yr ardaloedd mynyddig ac anial sydd yn yr Alban, gyda phoblogaethau bychan iawn. Mae’r graff isod yn dangos y ffigyrau:
Poblogaeth
Yn ôl y cyfrifiad 2011, mae poblogaeth Cymru tua 3.1 Miliwn, i’w gymharu â phoblogaeth mwy o 5.3 Miliwn yn yr Alban.
Wrth edrych ar batrwm oedrannau’r boblogaeth yn ddwy wlad, mi wnawn ni edrych ar y canran yn hytrach na’r nifer – mae hyn yn gwneud y gymhariaeth yn haws.
Er gwahaniaethau bychain – mae’n ddiddorol gweld pa mor agos yw siâp poblogaeth y ddwy wlad.
Fel mae’r graff yn dangos, mae gan Yr Alban ganran uwch o boblogaeth rhwng 25-44. Mae Cymru yn cynnwys canran fwy o bobl ifanc 0 – 24 a henoed dros 65.
Iaith
Fel da ni gyd yn ymwybodol – mae’r iaith Gymraeg yma dan warchae, gyda ffigyrau nifer sy’n siarad Cymraeg yn gostwng yn ôl y cyfrifiad olaf. Er hyn – mae’r sefyllfa iaith yn Yr Alban yn dipyn mwy trist.
Dim ond ychydig dros 1% o’r boblogaeth sy’n siarad Gaeleg yn Yr Alban – i’w gymharu â dros 18% yn siared Cymraeg yma yng Nghymru. Rhaid i mi gyfaddef, dwi’m yn deall digon am hanes yr iaith Gaeleg i wybod os oes ymgyrch wedi bod i gadw’r iaith, neu gynyddu’r nifer o siaradwyr. Ond mae pethau yn edrych yn ddu iawn.
Gwaith
Mae’r graff isod yn cymharu’r cyflog blynyddol ar gyfartaledd yn y ddwy wlad:
Mae Albanwyr yn derbyn cyflog sydd dros £1,800 y flwyddyn yn fwy na’r Cymry.
O ran diweithdra, mae 3.4% o Albanwyr ar Lwfans Ceisio Gwaith (Job Seekers Allowence) i gymharu gyda 4% o Gymru.
Mae’r graff isod yn dangos ym mha feusydd mae’r poblogaeth yn gweithio.
Mae’r graff yn dangos fod y Cymru ar y blaen o’r Alban yn y meysydd Cynhyrchu ac Addysg, ond bod yr Alban yn ennill yn y meysydd Gwyddonol/Technegol a Gweinyddol/Cefnogol. (mae gan Yr Alban “Silicon Glen” o gwmnïau technoleg Linc).
Addysg
Mae’r graff isod yn dangos sut mae’r ddwy wlad yn cymharu o ran addysg
Mae Cymru i weld yn perfformio’n dipyn gwell na’r Alban, gyda llai o blant heb yn gadael ysgol heb gymwysterau a mwy yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau uwch.
Allforio
Yn olaf – nawn ni edrych ar y ffigyrau allforio i’r ddwy wlad. Mae’r ffigyrau yma i eitemau sydd wedi cael ei allforio i wledydd tu allan i’r DU. Am ryw reswm – dyw’r ffigyrau am olew crai o Fôr y Gogledd ddim yn rhan o ffigyrau’r Alban – dim ond y DU i gyd, felly dwi wedi gorfod ei gadael nhw allan).
Dwi wrth fy modd hefo’r ffigwr uchel sydd yn deillio o’r Alban yn allforio wisgi – mae adran alcohol a baco nhw dros 20% yn fwy na ni yma!
O ran Cymru – da ni ar y blaen yn yr adran Mwynau a Thanwydd. (eto – rhaid cofio bod olew crai ddim yn rhan o hyn) a pheirianneg.
Canlyniad
Dim ond ryw drosolwg fras o’r ddwy wlad dwi wedi cynnwys yma. Dyw ffigyrau fel hyn ddim yn gallu disgrifio naws, ysbryd a chymeriad gwlad a’i phobl.
Da ni’n rhannu’r un fath o boblogaeth o ran oedran, er bod y niferoedd yn fwy yn yr Alban. Mae’r rhaniad gwaith hefyd yn debyg iawn – gyda’r un fath o ganrannau yn gweithio yn yr un meysydd yn y ddwy wlad (gydag ambell eithriad fel swyddi technegol yr Alban ac Addysg yng Nghymru).
Ond, mae ‘na hefyd wahaniaethau mawr. Heblaw am y gwahaniaeth arwynebedd amlwg, mae’r sefyllfa iaith Gaeleg yn yr Alban yn druenus. Mae Cymru hefyd i weld yn gwneud dipyn gwell mewn addysg. Mae patrymau allforio’r ddwy wlad yn wahanol hefyd, gyda wisgi’r Alban yn cyfrannu’n sylweddol!
Yn fy marn i felly, camsyniad felly fysa ddefnyddio’r Alban fel rhyw fath o “Blueprint” annibyniaeth. Mae’r gwahaniaethau yn rhu niferus, a felly bydd dadleon a sialensau newydd yn codi mewn annibyniaeth i Gymru.
Hwyl am y tro
Dafydd
Diddorol iawn, Dafydd. Dwi wrth fy modd gyda’r blog yma!
Efallai bydde’r graff allforion yn fwy dadlennol petaech yn defnyddio gwerth yr allforion, yn hytrach na chanran?
Hia. Diolch am ymateb.
Mi fysa’r ffigyrau yn dangos y gwahaniaethau yn well gyda’r niferoedd. Nes i ddefnyddio’r canranau i wneud ti’n haws cymharu’r ddwy wlad heb orfod cysidro’r gwahaniaeth mawr mewn poblogaeth.
Hwyl
Dafydd