Cymru v Wrwgwai Ar Twitter

Cymru v Wrwgwai Ar Twitter

Rygbi ar Twitter

Sbel yn ôl, mi wnes i drio defnyddio data twitter i ddadansoddi pa ddiwrnod o’r Eisteddfod oedd fwyaf poblogaidd. Y syniad oedd monitro pryd roedd pobl n defnyddio’r hashnodau eisteddfodol.
Y tro yma, nesi ddefnyddio’r un fethodoleg i fapio allan gem Rygbi Cymru vs Wrwgwai. Nes i benderfynu defnyddio’r hashnod #WAL – gan mai hwnnw ydi’r un swyddogol ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae’r graffeg isod yn dangos niferoedd y twîts yn ystod y gem.

Cymru v Wrwgwai

Cymru v Wrwgwai

Stats Pellach

Yn ddisyndod, mae’r niferoedd mwyaf yn cyd-fynd gyda uchafbwyntiau’r gem h.y. pob tro mae Cymru yn cael cais!

Cais Cory Allen am 14:53 oedd uchafbwynt twitter, gyda 129 twît yn cael ei yrru yn y munud yna!

Nifer twîts dros gyfnod y gem gyda’r hashnod #WAL= 5193 (tua 45 y munud!)

O’r rhain, roedd 2130 (41%) yn ail-drydariad (retweet)

Roedd 130 yn negeseuon uniongyrchol (direct message)

 

Ydio werth rhedeg yr un fath o ddadansoddiad i’r gemau nesaf?

 

Hwyl

Dafydd