#DespiteBeingTaughtInWelsh – Dilyn y Trend

Pan gyhoeddodd @WalesOnline erthygl yn rhyfeddu bod Jamie Roberts wedi llwyddo bod yn ddoctor, er bod o wedi cael addysg Gymraeg, chymerodd hi fawr o amser i ddefnyddwyr twitter frwydro yn ôl, gan amddiffyn addysg Gymraeg, a chwestiynu addysg newyddiadurwyr @WalesOnline!

Yng nghanol yr ymatebion yma, fe aned y hashnod #DespiteBeingTaughtInWelsh fel ymateb gwych i’r hyn oedd yn cael ei honni (bod addysg Cymraeg yn wael). O fewn dim, roedd #DespiteBeingTaughtInWelsh yn trendio ar twitter. Erbyn y diwedd, roedd ar y rhestr trendio uchaf drwy Brydain.

Dwi wedi trio dilyn y trend yma drwy ddefnyddio API twitter i nôl pob twît gafodd ei greu hefo’r hashnod, i fynnu at hanner nos neithiwr. (dwi ddim wedi cynnwys ReTweets, jyst i neud pethe’n haws i mi!).

Y Twît Cyntaf

Yn ôl y data, y twît cyntaf i gynnwys yr hashnod oedd hwn gan @RhysCaerdydd am 13:00 –

Cychwyn Trend

Fe gychwynnodd pethe’n eithaf araf. Rheng 13:00 14:00, roedd yr hashnod yn cael ei ddefnyddio mewn un twît bob dau funud, gyda 31 twît yn ymddangos yn ystod y cyfnod. Ar ei anterth, rheng 21:00 22:00, roedd 7 twit y munud yn cynnwys yr hashnod, gyda 442 yn cael eu creu yn yr awr yno!

Mae’r graff yma’ dangos y niferoedd pob awr:

A dyma’r nifer pob munud dros yr un cyfnod.

 

Niferoedd

Uchafbwynt y defnydd oedd rhwng 22:00 a 22:10, ble gafodd 151 twît ei greu hefo’r hashnod – sy’n cyfateb i 15 twît pob munud!

Mae’ graff yma’n dangos y niferoedd dros y cyfnod (wedi ei dorri lawr i flociau 10 munud)

 

Mae’n dangos yn glir tyfiant organig y trend drwy’r dydd.

Tybed beth fydd y trend twitter Cymraeg nesaf?

 

Hwyl am y tro

Dafydd

 

1 Comment

  1. jenny heney · Ionawr 26, 2016

    Dwi i’n fam I dri a cafodd addysg yn y Gymraeg – peirianydd sy’n gweithio’n rhyngwladol, cynllunydd gwisgoedd theatre a dietegydd.