Enwau Llefydd Mwyaf Poblogaidd Cymru

Blogiad byr heddiw am enwau llefydd yng Nghymru.

Fel rhan o’i gwaith creu mapiau, mae’r Ordnance Survey wedi bod yn casglu a chynnal rhestrau o enwau llefydd ers blynyddoedd. Nawr, yn sgil ei rhaglen “open data”, mae’r rhestr gyfan ar gael nawr i’w lawr lwytho am ddim ar gyfer ei defnyddio mewn systemau daearyddol/GIS.

Mae’r ffeil gyfan yn anferth (tua 250,000 cofnod) . Wrth brosesu’r data ar gyfer darn o waith – a nes i benderfynu gweld beth oedd yr enwau mwyaf poblogaidd o fewn Cymru.

Dyma’r 15 uchaf yn ôl yr OS.

Enwau digon syml ydynt, gyda nifer yn cyfeirio at y dirwedd neu’r ddaearyddiaeth (e.e Bryn, Pant, Cwm).

Yn ogystal ag enwau dinasoedd/trefi a phentrefi – mae ‘na lefydd eraill. Dyma’r rhai mwyaf poblogaidd:

  • Coedwigoedd = Coed Mawr (5 gwaith)
  • Llynnoedd = Llyn Du (7 gwaith)
  • Afonydd = Afon Dulas (10 gwaith)
  • Mynyddoedd/Bryniau = Bryn Mawr (11 gwaith)

Hwyl am y tro

Dafydd

Gadael Ymateb