Gwagle Cymru
Mae’r map isod yn dangos ardaloedd ‘gwag’ Cymru:
I gael gweld fersiwn high-res, cliciwch y linc YMA
Data
Ar gyfer y map yma, dwi’n dweud bod rhywle yn “wag” os nad oes adeilad tu mewn i’r sgwâr 1km. I greu’r map, nes i ddefnyddio data agored newydd gan yr OS o’r enw Open UPRN (linc).
UPRN (unique property reference number) yw rhif unigryw sydd ar pob adeilad yn y DU. Yr oll nes i oedd plotio pob UPRN yng Nghymru ar grid 1km, ac wedyn cyfrifo pa grid oedd ddim yn cynnwys un o’r pwyntiau yma.
Mae’r rhan fwyaf o’r llefydd “gwag” yma unai yn lefydd mynyddig, neu ardaloedd ger yr arfordir.
Hwyl
Dafydd