Gwir Siâp Cymru
Mapio Data
Mae pawb yn gyfarwydd a defnyddio lliwiau ar fapiau i ddangos a dehongli gwybodaeth – mapiau Cloropleth. Ar y mapiau yma, mae ardaloedd megis gwlad, sir ne’ ward wedi eu lliwio yn ol rhyw ffigwr cysylltiedig e.e. poblogaeth.
Ffordd gwhanol iawn o ddangos yr un data yw drwy fapiau Cartogram. Yma, yn ogystal a lliwiau, mae’r daearyddiaeth ei hun yn cael ei newid a’i ddylanwadu gan y ffigyrau. Os yw’r ffigyrau yn uchel – bydd y siâp yn cael ei chwyddo, ac os yw’r ffigyrau yn llai, bydd y siâp yn cael ei leihau. Drwy gydol y broses, mae’r ffiniau yn cael eu cadw yn gyflawn (contiguous polygons) Mae’r canlyniadau yn gallu bod yn drawiadol iawn.
Enghreifftiau
Yn yr enghreifftiau isod – dwi ‘di defnyddio data o StatsWales (linc) yn erbyn data LSOA (Lower Super Output Area) gan yr ONS (linc).
Ciciwch y llyniau i weld fersiwn mwy.
1. Poblogaeth Pob LSOA
2. Dwysedd Poblogaeth LSOA
3. Canran Sy’n Siared Cymraeg Ymhob LSOA
Diweddariad
Enghraifft arall – y tro ‘ma ar lefel sirol. (data eto gan StatsWales yma)
Mae’n well defnyddio cartogram i adlewyrchu maint rhywbeth, e.e. nifer siaradwyr, yn hytrach na chanran. Mae ffigurau 1, 2 efallai a 4 yn ddefnydd priodol ond dydy ffigur 3 ddim a dweud y gwir.
Beth ddefnyddiaist i’w creu? Fe fyddaf yn defnyddio http://scapetoad.choros.ch/ fy hun.
Sylwer nad oes angen defnyddio to mor aml: pob ac ymhob, sy’n gywir, A Lluniau fyddai’r tag priodol, nid Llyniau. Ymddiheuriadau am dynnu dy sylw at y rheini ond i mi mae’n tynnu fy sylw o’th gynnwys. Byddwn yn argymell defnyddio http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/, ac efallai http://www.gweiadur.com/ wrth lunio dy ddarnau.
Dal ati, mae’n werthfawr cael cyfraniadau fel hyn yn y Gymraeg.
Hia Hywel
Diolch am adael sylw.
Sgript o fewn ArcMap 10.2 nes i ddefnyddio i greu’r Cartograms yma – dwi wedi clywed am scapetoad, ond ‘rioed wedi ei ddefnyddio.
Diolch am y linc i Cysill Ar-lein – dwi’n defnyddio Cysill yn aml yn waith felly fydd hwn yn ddefnyddiol iawn! (wedi cywiro ambell wall yn y post gwreiddiol yn barod!).
Hwyl
Dafydd