Yr Hashnodau Cymraeg Mwyaf Poblogaidd
Yr Hashnodau Cymraeg Mwyaf Poblogaidd
Yn y blogiad olaf (linc), mi wnes i ddefnyddio data o gorpws twitter techiaiath (linc) i ddadansoddi datblygiad y Gymraeg ar twitter o 2007 ymlaen.
Un rhan o’r dadansoddiad oedd edrych ar ba hashnodau (hashtags) oedd y fwyaf poblogaidd dros y cyfnod. Y tro yma, dwi wedi defnyddio’r un data i ddadansoddi’n fanylach pa hashnodau oed fwyaf poblogaidd dros y misoedd dan sylw.
Cywirdeb y Dadansoddiad
Cyn cychwyn, dwi angen pwysleisio nad yw’r dadansoddiad yma yn 100% cywir. O’r 2,831,265 cofnod yn y ffeiliau gwreiddiol, cafodd 10% eu tynnu allan oherwydd bod y data yn y colofnau anghywir. Dwi wedi trio cywiro’r data drwy ddefnyddio reCSVeditor (linc) – ond heb lwyddiant.
Defnydd Hashnodau
Dechreuodd yr hashnod gael ei ddefnyddio o ddifri ar twitter yn 2009. Mae’r graff isod yn dangos y cynnydd mewn twîts Cymraeg dros y cyfnod.
Mae’r graff yma yn dangos sawl un o’r twîts uchod oedd yn cynnwys o leiaf un hashnod.
Rhwng 2011-2014, ar gyfartaledd, roedd 31% o bob twît Cymraeg yn cynnwys o leiaf un hashnod.
Hashnodau Fesul Blwyddyn
Mae’r graffiau isod yn dangos yr hashnodau mwyaf poblogaidd pob mis o 2009 ymlaen.
Yn 2013, daeth yr hashnod #YAGYM i ddefnydd. Hwn yw’r hashnod Cymraeg fwyaf poblogaidd erioed, ac mae’n bell o flaen y gweddill (linc). Oherwydd hyn, dwi wedi creu dau graff ar gyfer 2013, 2014, 2015 yn ystyried a eithrio’r hashnod.
Tueddiadau
Mae’r graffiau uchod yn cadarnhau llwyddiant yr hashnod #YAGYM – mae’n ymddangos fel y hashnod fwyaf poblogaidd 15 gwaith. Yn ail mae #NEWYDDION, sy’n ymddangos 6 gwaith, ac yna #S4C yn drydedd, sy’n ymddangos 4 gwaith. Dwi wedi cynnwys y rhestrau llawn yng ngwaelod y blog yma (clic). Fel yn y graffiau uchod, dwi wedi creu rhestr yn cynnwys ac eithrio #YAGYM.
Yn olaf, wrth edrych ar y canlyniadau, mae modd gweld be sy’n boblogaidd yn ystod y flwyddyn e.e.
- Chwefror a Mawrth = Can i Gymru
- Mai a Mehefin = Yr Urdd
- Awst = Eisteddfod
- Rhagfyr = Nadolig
Data Gwreiddiol
I’r rhai sydd hefo diddordeb, dyma’r linc i’r data gwreiddiol nes i ddefnyddio:
Linc 154MB
Mae’r ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau unigol wedi eu cyfuno i un csv mawr. Dwi ddim wedi prosesu’r ffeil ddim pellach.
Dwi’n argymell i chi fynd i wefan corpws techiaith i ddarllen y canllawiau ac i gael gwybodaeth bellach (linc)
Gadewch mi wybod so da chi’n gwneud rhywbeth diddorol hefo’r data 🙂
Hwyl
Dafydd
Rhestr Nifer Hashnodau
Mae’r rhestrau isod yn dangos sawl gwaith fuodd pob hashnod yn yr un fwyaf poblogaidd y mis.