
Hunaniaeth Genedlaethol Cymru 2019
Bob chwarter, mae’r llywodraeth yn rhyddhau data am hunaniaeth genedlaethol poblogaeth Cymru. Mae’r data yn cynnwys canran poblogaeth pob sir sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.
Dwi wedi mapio’r data yma i greu darlun o hunaniaeth Cymru yn 2019.
Mapio’r Data
Mae’r data gwreiddiol ar gael ar wefn StatsCymru yma (linc).
Mae’r map isod yn dangos y data ar gyfer 2019

Yn ôl y data diweddaraf, mae 63.3% o boblogaeth Cymru sydd yn ystyried eu hunain yn Gymraeg. Mae hynna i fynu ychydig (0.3%) o ffigwr 2018, ond i lawr 4.6% ers y data cynharaf yn 2001.
Siroedd
Ar waelod y rhestr mae Fflint, gyda dim ond 34.6% o’r poblogaeth yn adnabod fel Cymru. Mae Fflint, yn ogystal a Conwy a Powys yn siroedd ble mae’r hunaniaeth Gymraeg yn leiafrif, H.y. mae llain na 50% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Gymraeg.
Yn y data diweddar yma, mae Sir Fynwy bron a cyrraedd y trothwy yma, gyda dim ond 50.7% yn Gymraeg.
Ar ben arall y rhestr mae ardaloedd y cymoedd dal yn gryf, gyda Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent dros 79%
Newid Ers 2001
Mae’r data ar gael yn ôl i 2001, ac mae’r map isod yn dangos y newid mewn canran o 2001 a 2019.

Yn 2009, fe ddisgynnodd niferoedd Powys o dan 50%, ac mae’r sir wedi gweld y canran sy’n adnabod eu hunain fel Cymru yn mynd o fwyafrif o 55.6% i lleiafrif o 48.9%.
O ran cynnydd, dim ond Dinbych a Môn wedi gweld newid positif, gyda cynnydd o 3% a 1%.
O ran colled, mae Abertawe, Ceredigion a Wrecsam oll wedi gweld colled o dros 10% sydd yn adnabod eu hunain fel Cymraeg! (mae’n bur debyg mai Ceredigion fydd y sir nesaf i basio’r trothwy o lai na 50% o’r poblogaeth yn adnabod ei hunain fel Cymraeg)
Wedi synnu bod canran uwch efo hunanieth Gymraeg yn y cymoedd nac yng Ngwynedd… (ond efallai fy niffyg gwybodaeth am y Cymoedd yw hynny….).
Map diddorol dros ben.
Oes gen i hawl i’w rannu?
Hia Llinos
Sori mod i’n hwyr yn ymateb – croeso i ti rannu’r map os wy ti eisiau
Diolch
Dafydd
Mae cyfieithiad Llywodraeth Cymru o’i thudalen ei hun yn warthus, gan rywun sy’n ysgrifennu « pop person », sydd heb deall y gwahaniaeth rhwng « Cymreig » a « Cymraeg » ac sy’n cymysgu’r ddau ar yr un tudalen. Nid yw’n dangos llawer o barch at ddarllenwyr Cymraeg.
Byddai’n dda iawn clywed bod y canrannau yn yr arolwg yn ystyried eu hunain yn Gymraeg – Welsh-speakers!