Mapio’r Eisteddfod
MAPIO’R EISTEDDFOD
Drwy ddefnyddio’r wybodaeth o wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, dwi wedi mapio lleoliadau’r ŵyl ers 1861, a darganfod ambell ffaith yn y broses.
Cyn cychwyn, rhaid i mi gyfaddef bo fi ddim yn ‘eisteddfodwr mawr. Ambell sesiwn hegar ym Maes B oedd yr agosaf es i ‘rioed i’r pafiliwn!
Felly, os da chi’n darganfod lleoliad anghywir, gadewch i mi wybod.
Cliciwch y map isod ar gyfer y fersiwn rhyngweithiol.
Data Siroedd
Mae’n amlwg o’r data mai Gwynedd yw’r Sir fwyaf Eisteddfodol yng Nghymru, gyda 29 Eisteddfod wedi ei gynnal yno ers 1861.
I’r gwrthwyneb, dim ond unwaith mae’r ŵyl wedi ymweld â Sir Fynwy a Thorfaen
Mae’n rhyfedd meddwl hefyd bod y ‘steddfod wedi bod yn Lloegr 9 gwaith!
Data Lleoliadau
Caernarfon yw’r lleoliad mwyaf Eisteddfodol, gyda 10 ymweliad. Mae’r ffigyrau llawn yn y fersiwn rhyngweithiol.
Ble Nesa?
Wrth fapio ble mae’r Eisteddfod wedi bod, mae’n bosib gweld ble sydd ‘rioed wedi cael Eisteddfod. Mae’r map isod yn dangos “Heat Map” 10 milltir o amgylch yr holl leoliadau – yr ardaloedd tywyll yw’r “not spots” yna sydd heb fod yn safle ‘eisteddfodol.
Rhai o’r lleoliadau sydd yn yr “not spots” yw:
Aberaeron, Tywyn, Amlwch, Aberdaron, Llangurig, Llanymddyfri a Dinbych y Pysgod.
Safleoedd Parhaol?
Yn y blynyddoedd diweddar, bu dadl i sefydlu safleoedd parhaol ar gyfer yr Eisteddfod. Drwy ddefnyddio’r un dulliau a darganfod canol Cymru, ond drwy ddefnyddio’r safleoedd hanesyddol, dwi wedi dadansoddi canolbwyntiau ardal ‘eisteddfodol ar gyfer y Gogledd, Canolbarth a’r De.
Y lleoliadau agosaf i’r canolbwyntiau yma yw:
Canol y Gogledd = Ysbyty Ifan – Conwy
Canol y Canolbarth = Pontrhydfendigaid – Ceredigion
Canol y De = Clydach – Abertawe
Coroni a Chadeirio
Drwy edrych i mewin i’r lleoliadau, mi ddoes i ar draws hanes y coroni a chadeirio. Ymysg y gwybodaeth mi wnesi sylwi:
Mae’r gwobrwyo’r gadair wedi cael ei atal 16 gwaith, gyda beirniaid Caerdydd y mwyaf llym, yn atal 4.
Mae’r goron wedi cael ei atal 6 gwaith, gyda Cheredigion y fwyaf beirniadol gan atal 2.
Yr unig dro gafodd y ddau ei afal oedd Dinbych yn 1939
Hwyl
Dafydd
Gwych, mae’r wybodaeth yma yn ddiddorol iawn.
Wnes i drio gwneud rywbeth tebyg (ond lot llai ‘high-tech’) yn google maps swl blwyddyn yn ôl: https://maps.google.co.uk/maps/ms?ie=UTF8&t=h&oe=UTF8&msa=0&msid=111625228965029201095.00047147e75c6b9c997c7
Ysgwn i a fyddai modd ei gyfuno gyda’r wybodaeth am nifer ymwelwyr yr Eeisteddgod er mwyn dod o hyd i’r safle delfrydol? Mae’r ffigyrau nes y llynedd gen i fan hyn: http://ifanmj.blogspot.co.uk/2013/08/normal-0-false-false-false-cy-x-none-x.html
Hia – diolch am ymateb.
Bendant sa’ bosib cyfuno’r nifer ymwelwyr gyda’r data i drio canfod lle delfrydol. Un ffordd fysa cymeryd y cyfartaledd ar hyd y cyfnod, wedyn gweld pa ardaloedd sydd yn perfformio’n well/gwaeth ayyb.
Sa’n ddiddorl hefyd gweld os oes perthynas rhwng nifer yn ymweld a’r ‘steddfod – a’r nifer sy’n siared cymraeg yn yr ardal. Efallai sa hyna’n ffactor arall mewn dewis ardaloedd?
Os gai amser dros y penwythnos, ti’n meindio os nai ddefnyddio’r data ymwelwyr i weld be ddaw allan ar y mapiau?
Hwyl
Dafydd
O ble daeth Parti’r Cwm/ Hwy enillodd parti cor dan 25 mlwydd oed?
Helo Arwyn.
Dim syniad mae’n ddrwg gen i.
Croeso i ti ddefnyddio’r data Dafydd – fe fydd yn ddiddorol gweld y canlyniad! Mae yna nifer o ystadegau ar wefan http://www.statiaith.com/ am nifer y siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd gwahanol.
Diolch, Ifan
Hia Ifan
Diolch. Mae Golwg wedi cynhoeddi’r ffigyrau am leni hefyd – 143,502 – felly fedrai ddefnyddio’r data yma hefyd.
Dwi wedi defnyddio data o Statiaith o’r blaen – ffynhonell gwych o ffigyrau am pob agwedd o Gymru.
Hwyl am y tro
Dafydd
Helo Ifan
Wedi cyhoeddi blog arall yn trio dadansoddi’r data ymwelwyr a lleolioadau’er Eisteddfod yma:
http://www.dafyddelfryn.cymru/blog/creu-eisteddfod-llwyddiannus
Hwyl
Dafydd
Diddorol iawn. Gan fod pedair Eisteddfod wedi bod ar Fon, oni ddyliai lliw yr Ynys ar y map fod yn las olau a nid glas tywyll ?
Helo Anthony, diolch am ymateb.
Mae Môn wedi ei liwio yn y glas goleuach – mae’r glas tywyll i weld yn siroedd y de ddwyrain fel Sir Fynwy a Torfaen.
Hwyl
Dafydd
Sut Mae Dafydd
Diolch am ymateb mor gyflym. Mae rhaid mai fy sgrin I sydd ar fai, neu fy llygaid a ‘dwi angen sbecdol newydd 🙂
Pob Hwyl
Anthony
[…] Os da chi isho mwy o fapio eisteddfodol – cliciwch yma i weld y map Eisteddfod Genedlaethol (clic)! […]