Mapio Cyllideb Cynghorau Cymru 2016-2017

Mapio Cyllidebau Cymru

Dwi wedi mapio cyllidebau cynghorau Cymru o’r blaen (linc), ond nawr bod y llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau cyllidebau cynghorau Cymru ar gyfer 2016/17, dwi am edrych eto yn sydyn ar bwy sy’n colli a phwy (os unrhyw un!) fydd yn ennill.

Y Toriadau

Dwi wedi cael y wybodaeth o ffrwd twitter y BBC

Mae’r map isod yn dangos canran y toriadau ymhob cyngor

% Colled

Ac mae’r map yma’n dangos cyllideb y cynghorau yn ystod 2016/17

Cyllid

Cyllid Y Pen

Mae’r amrediad yn anferth, o £89 miliwn ym Merthyr i £426 miliwn yng Nghaerdydd – ond rhaid ystyried poblogaeth pob sir. Poblogaeth Caerdydd yw’r uchaf, gyda thua 366,000 yn byw yno, i gymharu â 60,077 ym Merthyr.

Yn y map isod, dwi wedi cyfrifo cyllid y pen pob sir. (ffigyrau poblogaeth gan StatsCymru)

Cyllid y pen

Drwy ystyried y boblogaeth, mae Caerdydd yn disgyn i rif 21 allan o 22, gyda chyllideb y pen o £1,162 (dim ond Sir Fynwy sydd yn is, gyda £982 y pen). Mae Merthyr wedi codi i drydedd, gyda chyllideb y pen o £1,481. (Y ddau uchaf yw Blaenau Gwent gyda chyllid y pen o £1,572, ac wedyn Rhondda, gyda chyllid y pen o £1,501).

Mae’r siart isod yn dangos cyllid y pen pob sir.

Cyllid Pob Plaid

Yn olaf, mi wnes i edrych i weld os oedd unrhyw batrwm o ran pleidiau. Mae’n anodd yng Nghymru, gan fod Llafur yn cynrychioli dros hanner y siroedd, ac mae sawl cyngor o dan reolaeth clymbleidiau. Yn yr achosion yma, dwi wedi dewis y blaid sydd a’r gynrychiolaeth fwyaf ymhob cyngor (data o wikipedia).

Mae’r graff isod yn dangos ar cyllid y pen ar gyfartaledd gan gynghorau’r pleidiau.

Llafur sydd uchaf, gyda cyllid y pen o £1,373 ar gyfartaledd ar draws yr 13 Cyngor sydd yn berchen iddynt. Mae Ceidwadwyr ar y gwaelod, gyda cyllid o £1,076 ar gyfartaledd.

Gobeithio bod y dadnsoddiadau bras yma o ddiddordeb i rhywn. Gadewch mi wybod be da chi’n feddwl.

Hwyl am y tro

Dafydd