Mapio Enwau Cymraeg Cymru
Mae’n ddiwrnod ieithoedd lleiafrifol Ewrop heddiw, felly dwi wedi penderfynu rhyddhau prosiect mapio bach dwi wedi bod yn datblygu. Y nod yw casglu’r enwau lleol mae pobl yn eu defnyddio am eu cynefin ac yr ardal o’i hamgylch.
I agor y map, cliciwch y llun isod:
Mae gan bob cenhedlaeth ei enwau eu hunain am eu hardal leol, boed yn ddarn o dir, coedwig, afon neu adeilad. Mae’r enwau yna yn rhan o hanes ardal, a dwi’n meddwl bod hi’n bwysig trio cadw cofnod ohonynt cyn iddyn nhw ddiflannu.
Mae’r map yma yn un ffordd o wneud hyn. Arno, cewch ychwanegu enwau “answyddogol”, fysa byth yn ymddangos ar fapioau Ordnace Survey, ond sy’n bwysig i chi.
Dwi’n dal yn datblygu’r prosiect, a dwi’n croesawu unrhyw adborth. Y cam nesaf fydd galluogi chi i lawrlwytho’r data ar gyfer prosiectau arall.
Hwyl
Dafydd
Syniad gwych Dafydd, fedrai Di ychwanegol Glandwyfach?
Hia Trefor. Ychwanegu Glandwyfach ar y map cefndir ti’n feddwl?
MAe’r fap cefndir yn cael ei ddarpary gan gwmni arall – does gen i ddim rheolaeth dros y cynnwys, ond mi wnai edrych os oes un mwy manwl ar gael
diolch
Dafydd
Gweler uchod
Ti’n siarad â Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru? Mae nhw’n gwneud hyn ar raddfa eang eisioes, yn gweithio gyda mapio OS drwy Cyfoedd Naturiol Cymru. Bydd y map yn gyhoeddus yn fuan.
Hia Illtud. Na – nes i edrych ar y wefan ond deos na’m llawer o wybodaeth yna. Mae’n grêt bod na rhywbeth fel hyn ar y gweill yn barod – y mwyaf o adnoddau sydd ar gael, y gora.
Dwi’n gweithio ar adio botwm i lawrlwytho’r data ar y wefan. Os fedrith y data fod o fydd iddynt, gwell fyth.
Syniad gwych a gwerthfawr iawn. Diolch!
Diolch Morwen
Haia Dafydd – dwi’n mwynhau fy hun yn arw yn ychwanegu enwau. Fedri di fy helpu efo un peth? Mae gin i un neu ddau eisiau eu cywiro, neu angen eu symud ‘chydig ond dwi ddim yn siŵr sut i neud. Dwi ddim yn medru câl hyd i’r cod. Ydi cod pob cofnod i fod i gâl ei yrru imi drwy ebosd? Os ydi, yna wela i ddim byd!
Hia Morwen
Dim problem – mi wnai yrru’r codau mlaen i chi heno pan gai gyfle. O ran cywirio lleoliad, ar hyn o bryd, fedrwch chi ddileu yr hen gofnod ai ail greu yn y lle cywir (mae modd newid y testun ai arbed)
Mae’r côd i fod i gael ei yrru ‘mlaen os da chi wedi pwyso’r botwm “Gyrru Ebost”? Os dio ddim wedi gweithio nai edrych rhag ofn bod na broblem yn y cefn.
Diolch i chi am gyfrannu i’r map
Hwyl
Dafydd
Diolch Dafydd… sut wyt ti’n dileu cofnod?
Dwi wedi pwyso’r botwm ‘gyrru ebost’ gyda llaw (bron ar bob un)