Mapio’r Etholiad, Rhan 1 – Etholiad 2010
Mapio’r Etholiad, Rhan 1 – Etholiad 2010
Does dim dianc rhag y siarad, ffraeo a bwrlwm sydd wedi dod yn sgil etholiad 2015. Dwi’m yn ddilynwr mawr o wleidyddiaeth, ond gan fy mod i’n mapio data pob dydd, penderfynais y bysa’n ddiddorol trio mapio canlyniadau a phatrymau pleidleisio Cymru.
Yn y blogiad yma, dwi am edrych ar ganlyniadau 2010, i weld faint o bobl bleidleisiodd am ba blaid.
Y syniad yw creu’r un fath o flog gyda chanlyniadau 2015, ac wedyn blog yn mapio’r gwahaniaeth.
Map Rhyngweithiol
Yn ogystal â’r mapiau isod, dwi wedi creu ap mapio rhyngweithiol i ddangos y data – cliciwch yma i lwytho’r ap.
https://www.dafyddelfryn.cymru/gwaith/MapEtholiad/Map2010.html
Calyniad 2010
Mae’r map isod yn dangos calyniad etholiad 2010. (mae’r data i’r mapiau i gyd wedi dod o’r comisiwn etholaethol – linc)
Nifer Bleidleisiodd
Mae’r map isod yn dangos y canrannau o boblogaeth bleidleisiodd yn 2010.
Yr ardal gyda’r nifer uchaf oedd Gogledd Caerdydd, gyda 72.66% o’r boblogaeth yn troi fyny i bleidleisio.
Yr ardal gyda’r nifer lleiaf oedd Dwyrain Abertawe, gyda dim ond 54.62% o’r boblogaeth wedi pleidleisio.
Yn ddiddorol – o’r deg ardal isaf, Llafur enillodd naw ohonynt. Ar y llaw arall, o’r deg ardal uchaf, y Ceidwadwyr enillodd 6 ohonynt.
Mapiau Fesul Plaid
Mae’r mapiau canlynol yn dangos perfformiad y partïon gwahanol. (dwi wedi cynnwys UKIP, er nad oedd llawer wedi pleidleisio iddynt yn 2010, er mwyn cael gweld y gwahaniaeth yn 2015)
Er gwybodaeth, yr etholaeth gyda’r canlyniad agosaf oedd Gogledd Caerdydd, gyda dim ond 0.4% o’r bleidlais yn gwahanu’r Ceidwadwyr a Llafur.
Ar y llaw arall, y fuddugoliaeth fwyaf sicr oedd Ogwr, ble gurodd Llafur y Ceidwadwyr o 38.2%.
Ceidwadwyr
Democratiaid Rhyddfrydol
Llafur
Plaid Cymru
UKIP