
Mapio Tai Gwyliau Cymru
Sbel yn ôl, nes i bostio map ar Twitter yn dangos niferoedd unedau gwyliau o fewn wardiau Cymru.
Nes i’m disgwyl fysa’r map yn cael gymaint o sylw! – a ges i ddipyn o bobl yn holi am fwy o wybodaeth am y data craidd, be oedd yn cael ei ddangos, ac am fapiau gwahanol ayyb.
Di Twitter ddim yn grêt o le i ateb cwestiynau a cael trafodaeth iawn, felly dwi wedi trio rhoi mwy o wybodaeth lawr ar y blog yma. Gobeithio neith o ateb ychydig o’r cwestiynau a gododd, a chyflwyno ychydig mwy o wybodaeth.
Y Data Craidd
Mae’r map yma wedi selio ar ddata gan y Valuation Office Agency (VOA). Mae’r VOA yn cadw’r rhestr o pob eiddo domestig (tai ayyb) ac annomestic (busnesau) yng Nghymru a Lloegr.
Mae’n bosib lawrlwytho’r rhestr annomestig gyfan o’r wefan drwy ddilyn y linc isod:
(Mae’r map wedi ei selio ar rhestr 2017)
Ar gyfer diben y map, nes i ffiltro pob eiddo hefo’r cod categori “CH1”, sef “Holiday Homes (Self Catering)”. Di’r math yma ddim yn cynnwys pethau fel meusydd carafannau ayyb.
Mae pob cofnod yn cynnwys cod sir (e.e. cod Caerdydd = 6815). Drwy gadw’r cofnodion hefo cod sir yng Nghymru, nes i ddileu popeth o Loegr.
Yn olaf, gan mod i’n edrych ar dai gwyliau / tai haf, nes i dynnu’r cofnodion yn perthyn i bentrefi/barciau gwyliau.
Creu Y MapC
Rŵan bod y data craidd wedi sortio, roedd rhaid troi y rhestr yna i ddotiau ar y map, a gan bod cod post ar gael i bob cofnod, mae’n broses eithaf syml.
Mae Ordnace Survey yn cynnig lot o ddata agored i lawrlwytho am ddim o’u gwefan. Ar gyfer y prosiect yma, y data “Code-Point Open” roedd ei angen:
Yn syml, mae’r data yma yn rhoi cyfeirnod grid ar gyfer canol pob codpost. Wrth gyfuno’r data gyda’r rhestr tai, ges i’r map isod, ble map pob dot yn cynrychioli codpost hefo o leiaf un uned gwyliau:

Mae’r map terfynol yn defnyddio data wardiau nes i lawrlwytho o wefan yr Office Of National Statistics (eto, am ddim)
Data Daearyddol ONS – Linc
Y cam olaf oeddrhedeg dadansoddiad i gyfrif sawl dot oedd ymhob ward, a lliwio’r wardiau yn ôl y nifer.
Y Map
Dyma’r map gwreiddiol nes i bostio i twitter

Dwi’n siwr fod y map yn cadarhau llawer o be oedd pobl yn ei wybod yn barod h.y. bod ardaloedd sydd yn denu twrisitiais, hefo niferoedd uwch.
Mae’r niferoedd uwch i weld ar hyd yr arfordir, ond hefyd mewn llefydd fel Eryri a’r Bannau Brycheiniog.
10 Ward A Niferoedd Uchaf
Dyma’r 10 ward hefo’r niferoedd uchaf yng Nghymru:
- Dibnych y Pysgod (de) = 219
- Saundersfoot = 145
- Tyddewi = 134
- Yr Havens = 130
- Gwyr = 127
- Lligwy = 118
- Seiriol = 106
- Llanrhian = 104
- Llandudoch = 103
- Trefdraeth = 101
Dyma fap o’r ardaloedd uchaf:

Map Canran Eiddo
Ges i rhai yn holi am fap yn dangos y niferoedd fel canran o’r holl eiddo ymhob ward. Dwi wedi gallu creu map, ond mae’n dod hefo ychydig o caveats.
Yn gyntaf, do ni’m yn gallu dod o hyd i ddata cyfredol ar gyfer nifer o dai o fewn ward fwy diweddar na cyfrifiad 2011, felly dyna’r data dwi wedi ddefnyddio.
Yn sgil hyn, dwi hefyd wedi gorfod defnyddio data daearyddol wardiau 2011, sydd ychydig yn wahanol i’r data daearyddol yn y map gwreiddiol (mae Ynys Mon yn enwedig yn dra gwahanol)
Dyma’r map yn dangos canrannau:

10 Uchaf – Canran Ward
Dyma’r 10 ward hefo’r canrannau uchaf o gartrefi sydd yn unedau gwyliau:
- Yr Havens = 13.9%
- Dinbych Y Pysgod (de) = 12.2%
- Llanrhian = 12.1%
- Tyddewi = 11.5%
- Trefdraeth = 10.8%
- Solfach = 10.5%
- Saundersfoot = 8.6%
- Betws-y-Coed = 8.6%
- Uwch Conwy = 8.1%
- Aberdyfi = 8%
Dyma’r map cyfatebol:

Gwaith Pellach?
Dwi’n meddwl bod na lot o wybodaeth diddorol wedi cael ei gladdu yn rhestr VOA e.e. Mapio holl ffermydd Cymru? Mapio’r diwydiannau sydd mewn fwyaf o ddim deal Brexit? Mapio pob tafarn i greu pub crawl cenedlaethol?
Be da chin feddwl – be sa’n rwbath sa chi’n hoffi weld ar fap?D
Dolenni Defnyddiol
Isho creu mapiau eich hunain? Meddalwedd mapio agored i lawrlwuytho am ddim yma: https://qgis.org/en/site/
Data OS i gael am ddim yma: https://www.ordnancesurvey.co.uk/opendatadownload/products.html
Data ONS i gael am ddim yma: http://geoportal.statistics.gov.uk/