Mapio’r Etholiad, Rhan 2 – Etholiad 2015

Mapio’r Etholiad, Rhan 2 – Etholiad 2015

Wel, mae’r etholiad drosodd o’r diwedd gyda chanlyniadau reit annisgwyl yn y diwedd. Yn dilyn i fyny o’r blog cynt (linc) dwi am fapio’r canlyniadau yma yng Nghymru.

MAP RHYNGWEITHIOL

Eto, dwi wedi creu ap rhyngweithiol i dangos y canlyniadau (linc)

CANLYNIAD 2015

Mae’r map isod yn dangos y canlyniadau terfynol yn 2015.

Canlyniad 2015

Canlyniad 2015

 

NIFER BLEIDLEISIODD

Mae’r map yma’n dangos faint bleidleisiodd ymhob etholaeth.

% Wedi Pleidleisio

% Wedi Pleidleisio

Yr ardal gyda’r nifer uchaf oedd Gogledd Caerdydd eto, gyda 76.1% yn troi allan.

Yr etholaeth isaf oedd Merthyr Tudful a Rhymni, gyda dim ond 53% wedi tro fyny.

MAPIAU FESUL PLAID

Mae’r mapiau isod yn crynhoi perfformiad y pleidiau unigol.

Y canlyniad agosaf y tro yma oedd Gwyr, ble enillodd y Ceidwadwyr o ddim ond 0.1% yn fwy na Llafur.

Y canlyniad fwyaf pendant oedd ym Mlaenau Gwent, ble gurodd Llafur y Ceidwadwyr o 40.1%

CEIDWADWYR

Ceidwadwyr 2015

Ceidwadwyr 2015

Canlyniad gorau’r Ceidwadwyr oedd yn Sir Fynwy, ble cawsant 49.9% o’r bleidlais.

Y Canlyniad gwaethaf oedd yn y Rhondda, gyda dim ond 6.7% o’r bleidlais.

 

DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL

Dem. Rhydd 2015

Dem. Rhydd 2015

Canlyniad gorau’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yng Ngheredigion, ble cawsant 35.9% o’r bleidlais.

Y Canlyniad gwaethaf oedd yn y Rhondda, gyda dim ond 1.5% o’r bleidlais.

 

LLAFUR

Llafur 2015

Llafur 2015

Canlyniad gorau’r Llafur oedd ym Mlaenau Gwent, ble cawsant 58% o’r bleidlais.

Y Canlyniad gwaethaf oedd yn Sir Drefaldwyn, gyda dim ond 5.6% o’r bleidlais.

 

PLAID CYMRU

Plaid Cymru 2015

Plaid Cymru 2015

Canlyniad gorau Plaid Cymru oedd yn Arfon, ble cawsant 43.9% o’r bleidlais.

Y Canlyniad gwaethaf oedd yn Nwyrain Casnewydd, gyda dim ond 3.5% o’r bleidlais.

 

UKIP

UKIP 2015

UKIP 2015

Canlyniad gorau’r UKIP oedd yn Nghaerffili, ble cawsant 19.6% o’r bleidlais.

Y Canlyniad gwaethaf oedd yng Nghanol Caerdydd, gyda dim ond 6.5% o’r bleidlais.

 

NESAF…CYMHARU’R CANLYNIADAU