Mapio’r Toriadau i Gynghorau Cymru

Mae’r llywodraeth newydd gyhoeddi’r toriadau cyllid sydd yn wynebu’r Cynghorau yn 2015-2016. Gan ddefnyddio’r ffigyrau o wefan y BBC (linc) dwi wedi trio mapio’r effaith ar draws Cymru.

Y Toriadau

Ar hyn o bryd. Mae’r llywodraeth y rhannu allan ychydig llai na £4.3 biliwn y flwyddyn i Gynghorau Cymru, sydd yn o gwmpas 75% o’i cyllideb llawn. Yn y flwyddyn 2015-2016, bydd y ffigwr yma yn gostwng i lai na £4.2 biliwn. Mae’r toriadau diwethaf yma yn cyfateb i golled o £0.15 biliwn, neu 3.4% o gyllideb 2014-15.

Mae’r mapiau isod yn dangos canran y toriadau i gyllid pob sir:

Canran Y Toriad

Canran Y Toriad

Fel sy’n amlwg, dyw’r toriadau ddim yr un peth i pob sir, gyda Cheredigion, Powys, Conwy a Sir Fynwy sydd yn derbyn y toriadau uchaf (4.5%, 4,4% ac 4.3%). Dyma’r rhestr gyfan:

Mae’r arian mae pob Cyngor yn ei golli yn dibynnu ar y cyllideb gwreiddiol. Gall Gyngor a chyllideb fawr golli mwy o arian gyda thoriad bach, na Chyngor gyda chyllideb fach, ond toriad mawr!

Mae’r map isod yn dangos yr arian mae pob Cyngor yn mynd i golli yn sgil y toriadau:

Colled Ariannol Pob Sir

Colled Ariannol Pob Sir

Eto, dyw’r ffigyrau ddim yn gyfartal, gyda Rhondda, Caerdydd ac Abertawe yn colli’r fwyaf o arian, er nad nhw sydd gyda’r canran toriad uchaf. Mae’r siart isod yn rhestru’r data i gyd:

Y Newid

Mae’r mapiau isod yn dangos trosolwg o gyllidoedd y siroedd cyn ac ar ôl y toriadau:

Map Cymharu Cyllideb

O ran y map, does dim gymaint â hynna o wahaniaeth i weld, gyda Cheredigion yn unig wedi newid ei liw. Mae’r siart isod yn dangos y manylion llawn.

Mae canran y gyllideb mae pob sir yn ei dderbyn hefyd wedi aros yn weddol gyson. Mae’r siart isod yn dangos pa ganran o’r £4.2 biliwn fydd pob Cyngor yn ei dderbyn yn 2015-2016:

Cysidro’r Boblogaeth

Wrth edrych ar y siartiau canran, mae i weld yn annheg fod Caerdydd yn derbyn dros 10% o’r gyllideb – mwy na chyfanswm cyllideb Ceredigion, Sir Fynwy, Ynys Môn a Merthyr Tudful gyda’i gilydd. Y gwir yw bod pob sir yn wahanol iawn o ran eu demograffiaeth – ac mae’r fformiwla mae’r llywodraeth yn ei ddefnyddio’i gyfrifo’r rhaniad yn ystyried nifer o ffactorau e.e nifer plant, diweithdra nifer ar fudd-daliadau ayyb.

Heb fynd i’r un fath o gymhlethdod, i drio cael darlun mwy clir, defnyddiais ffigyrau poblogaeth pob sir (data o wefan StatsCymru yma) i gyfrifo faint o arian y pen mae trigolion pob sir yn eu cael – a pha effaith fydd y toriadau yma yn ei gael.

Mae’r mapiau isod yn dangos cyllideb y pen pob sir cyn ac arol y toriadau.

Cymharu Cyllideb Y Pen

Cymharu Cyllideb Y Pen

Wrth gysidro’r poblogaeth, da ni’n gweld mai Blaenau Gwent, Rhondda ac Merthyr sydd ar y brig (Mae Caerdydd yn waelodion y rhestr). Mae’r siart yma yn dangos y ffigyrau yn fanylach.

Mae’r colledion yn rhedeg o £35.74 y pen yng Nghastell-Nedd i £61.03 y pen ym Mhowys.

Colled Y Pen

Colled Y Pen

Dyma’r siart sy’n cyd-fynd gyda’r map:

Gan ddefnyddio’r data poblogaeth felly, da ni’n gweld mai Powys sydd ar ei golled fwyaf (colled o £61.03 y pen) gyda Ceredigion a Conwy yn ail a thrydydd (£60.55 a £58.69).

Pa Blaid Sy’n Enill?

Er bod y toriadau yma yn effeithio pob sir yng Nghymru, mi wnes i edrych i weld os oedd unrhyw blaid yn elwa fwy na’r llall. Mae hyn yn codi oherwydd bod dipyn o ddadleuon ar y we bod y toriadau wedi cael ei rhannu i elwa’r blaid Lafur.

Yn gyntaf, mi wnes i edrych i weld pa blaid oedd gyda’r mwyafrif ymhob sir. (dyw hyn ddim yn golygu mai’r blaid yna sydd yn rheoli’r Cyngor, gan fod nifer yn gweithio mewn clymblaid). (data craidd yma):

Plaid Gyda'r Mwyafrif Ymhob Sir

Plaid Gyda’r Mwyafrif Ymhob Sir

Gan gymryd cyfartaledd cyllid y pen pob sir sy’n perthyn i bob plaid, fedrwn ni gyfrifo cyllid y pen pob plaid. Dyma’r canlyniad:

Mae’r data i weld yn cadarnhau bod Llafur yn elwa yn well ar ôl y toriadau – gyda cholled y pen y flwyddyn o £44.83! Ond, cyn i ni fynd lawr i Fae Caerdydd i brotestio, rhaid cofio fod Llafur yn cynrychioli’r mwyafrif yn fwy na hanner siroedd Cymru, felly efallai ei fod yn annheg eu beirniadu ar y ffigyrau yma.  (e.e Mae’r Rhondda yn fwyafrif Llafur, gyda cholled y pen o £56.75 – tra mae Sir Fynwy yn fwyafrif Ceidwadwyr gyda cholled o £45.60)

Yn y diwedd, pa bynnag blaid neu sir sy’n dod allan orau – y gwir yw bod pob Cyngor yn wynebu amser caled, a bydd penderfyniadau anodd yn cael ei gwneud bydd yn effeithio ar bob un ohonom!

3 Comments

  1. naturiaethwr · Hydref 14, 2014

    Diddorol iawn Dafydd, yn enwedig y ffigyrau fesul pen. Creda i y dyle Llywodraeth Cymru gweithredu rhyw fath o fformiwla cyllido ar sail difraint, hynny yw, bod y cyfanswm o arian a roddir fesul pen wedi’i glustnodi’n glir ar sail mor ddifreintiedig ydy’r cyngor sir. Ar hyn o bryd ar hap a damwain mae’n edrych y clustnodir adnoddau – sy’n arwain at gyhuddiadau o ffafriaeth.

    • Dafydd Elfryn · Hydref 14, 2014

      Helo, diolch am adael neges.

      Dwi’n cytuno – cyhoeddi’r ffigyrau yn llawn, yn cynnwys y cyfrifo. Mi fysa pawb wedyn yn gweld y rheswm dros yr anhegwch, a gallu cwestiynu y canlyniad.

  2. Mapio Cyllideb Cynghorau Cymru 2016-2017 | Newyddion Cymru · Chwefror 9, 2016

    […] wedi mapio cyllidebau cynghorau Cymru o’r blaen (linc), ond nawr bod y llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau cyllidebau cynghorau Cymru ar gyfer […]