Pa mor wledig yw Cymru?

Pa mor wledig yw Cymru?

Metro Gogledd Cymru

Pan gyhoeddodd Llafur eu cynlluniau am y Metro Gogledd Cymru, fe gododd dipyn o stŵr, gyda nifer yn synnu bod Gogledd Cymru yn cwmpasu Lerpwl, Caer a gorffen yn Rhyl!

Metro Gogledd Cymru

Mae llafur wedi amddiffyn y cynllun gan ddweud bod y Metro yn “urban concept” a bod gweddill gogledd Cymru yn rhu wledig, a bod angen “rural solution” gwahanol

Labour’s plan for a north Wales metro transport system excludes Anglesey, Gwynedd and Conwy because it is an “urban concept” for heavily populated areas, the first minister has said.

Carwyn Jones told BBC Wales the north-west needed “rural solutions” instead.

(Linc i’r erthyl llawn yma – Linc)

Nes i gychwyn meddwl, sut mae mynd ati i ddarganfod lle sydd yn drefol (urban) a lle sydd yn wledig (rural) a sut mae’r rhaniad yma yng Nghymru. Dwi wedi crynhoi’r canlyniadau yn blog bach yma.

Datgeliad Llawn

Mae’r post yma yn sôn am gynlluniau Llafur am Fetro Gogledd Cymru. Dwi’m yn aelod o unrhyw blaid, ond dwi hefyd ddim yn gefnogwr Llafur. Dwi ‘di trio creu hwn heb unrhyw duedd, a dim ond edrych ar ganlyniadau’r data. Dwi wedi rhoi dolen i’r data gwreiddiol i unrhyw un sydd eisiau ail-greu neu edrych ar y data ei hunain.

Data yr ONS

Yn ffodus iawn, mae’r ONS wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith caled, gan eu bod yn defnyddio’r categorïau  gwledig/trefol wrth ddadansoddi data. O’r wefan (Linc), mae modd lawr lwytho tabl sy’n didoli pob ward i gategori gwledig/trefol.

Dyma’r categorïau sydd sy’n cael eu defnyddio:

  • Pentrefi gwledig ar wasgar mewn ardaloedd gwledig
  • Pentrefi gwledig ar wasgar
  • Trefi Gwledig mewn ardaloedd gwledig
  • Trefi Gwledig
  • Dinasoedd a Threfi ar wasgar
  • Dinasoedd a Threfi

Mapio Cymru

Ar lefel Ward – dyma sut mae Cymru’n edrych:

Map Cymru

Mae’r gwyrddni gwledig yn syfrdanol, gyda’r ardaloedd trefol glas i’w gweld fwyaf i lawr yn y De-ddwyrain, gydag ychydig ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

I grynhoi hyn i lawr – dim ond 11% o Gymru sydd yn cael ei gategoreiddio fel “trefol” yn ôl yr ONS, gyda’r 89% o’r gweddill yn ardaloedd “gwledig”.

Gogledd Cymru

Er bod cymaint o Gymru yn ardal wledig yn ôl yr ONS – dyw’r data ddim i weld yn cefnogi dadl Llafur bod gweddill Gogledd Cymru – ar ôl Rhyl – rhu wledig i gael eu cynnwys gan y Metro. Mae’r map isod yn dangos yn gliriach arfordir y gogledd (dwi wedi rhoi sêr ar Wrecsam a Rhyl):

Gogledd Cymru

Mae’r data ONS yn dangos bod yr un math o ardaloedd sydd yn cwmpasu Rhyl a Wrecsam, i’w cael ar hyd yr arfordir mor bell i’r Gorllewin a Caernarfon. Mae’n edrych felly, os yw Rhyl a Wrecsam ddigon “trefol” i gael eu cynnwys, mae gan Gonwy, Llandudno a Bangor ddadl gref i fod yn rhan o’r cynllun.

Mwy o Wybodaeth?

Wrth gwrs, rhaid cofio mai dim ond un ffynhonnell data sydd wedi cael ei ddefnyddio yma, ac efallai bod Llafur wedi defnyddio mesuriad arall. Dwi wedi trio chwilio am fwy o fanylion o’r cynllun, ond heb lwc. Diddorol fysa plethu ffigyrau poblogaeth ayyb i mewn i’r mapiau, ond doed gen i’m amser ar hyn o bryd. Os oes unrhyw un eisiau copi o’r data craidd i wneud hyn, cysylltwch â fi drwy adael neges isod, neu drwy twitter.

 

Hwyl

Dafydd