Mapio Lliwiau Ysgolion Cynradd Cymru

Mapio Lliwiau Ysgolion Cynradd

Sbel yn ôl, mi wnes i fapio canlyniadau system graddio’r llywodraeth ar gyfer Ysgolion Uwchradd (linc). Yn y blogiad bach yma, dwi wedi mapio’r ysgolion cynradd. Mae’r system lliwiau’r un peth, gyda –

Gwyrdd = Gwych

Melyn = Da

Oren = Angen Gwella, angen cefnogaeth fyrdymor

Coch = Angen cefnogaeth sylweddol

Mae’r data canlyniadau o wefan y BBC (linc). Ar gyfer y mapio, ges i gyfeiriad a chod post pob ysgol o wefan y llywodraeth (linc). Roedd posib wedyn cyfuno’r data cod post yma gyda’r ffeiliau OS opendata CodePoint (linc) i greu’r haen.

Mapio Lliwiau Ysgolion Uwchradd Cymru

Mapio Lliwiau’r Ysgolion

Mae’r llywodraeth newydd gyhoeddi canlyniadau system graddio ysgolion Cymru. (manylion yma http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35428451) Mae pob ysgol yn cael un o’r lliwiau canlynol:

Gwyrdd = Gwych

Melyn = Da

Oren = Angen Gwella, angen cefnogaeth fyrdymor

Coch = Angen cefnogaeth sylweddol

Yn y blog sydyn yma, es i ati i fapio’r canlyniadau yma i drio gweld os oedd unrhyw batrwm yn ymddangos.

#DespiteBeingTaughtInWelsh – Dilyn y Trend

Pan gyhoeddodd @WalesOnline erthygl yn rhyfeddu bod Jamie Roberts wedi llwyddo bod yn ddoctor, er bod o wedi cael addysg Gymraeg, chymerodd hi fawr o amser i ddefnyddwyr twitter frwydro yn ôl, gan amddiffyn addysg Gymraeg, a chwestiynu addysg newyddiadurwyr @WalesOnline!

Yng nghanol yr ymatebion yma, fe aned y hashnod #DespiteBeingTaughtInWelsh fel ymateb gwych i’r hyn oedd yn cael ei honni (bod addysg Cymraeg yn wael). O fewn dim, roedd #DespiteBeingTaughtInWelsh yn trendio ar twitter. Erbyn y diwedd, roedd ar y rhestr trendio uchaf drwy Brydain.

Perfformiad TGAU Cymru

Blog bach sydyn iawn heddiw!

Ddoe (12/1/16) mi ddarllenais erthygl ar wefan y BBC yn sôn am yr effaith mae lle mae’r plant yn mynd i’r ysgol yn ei gael ar eu canlyniadau TGAU. Roedd y stori yn sôn am y “North-South divide”, a chrybwyll bod ffactorau daearyddol yn gallu chwarae rhan yn y dadansoddiadau.

(Linc i’r erthygl yma: clic)

Roedd yr erthygl wedi mapio’r canlyniadau fesul ardal yn Lloegr, gan eu lliwio yn ôl y gwahaniaeth rhyngddynt a’r canran gyrhaeddodd y nod ar gyfartaledd drwy’r wlad.

Cymharu Perfformiad Ysgol Plant Cymraeg a Di-gymraeg

Cymharu Perfformiad Ysgol Plant Cymraeg a Di-gymraeg

Yn ddiweddar mi ddes i ar draws adroddiad diddorol gan lywodraeth Cymru yn cymharu perfformaid ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Ond, roedd yr adroddiad yn edrych ar fwy na iaith yr ysgolion, roeddynt hefyd yn edrych ar iaith y plant. Dwi wedi trio crynhoi rhai o’r prif ganlyniadau yma.

Mapio Cyllideb Cynghorau Cymru 2016-2017

Mapio Cyllidebau Cymru

Dwi wedi mapio cyllidebau cynghorau Cymru o’r blaen (linc), ond nawr bod y llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau cyllidebau cynghorau Cymru ar gyfer 2016/17, dwi am edrych eto yn sydyn ar bwy sy’n colli a phwy (os unrhyw un!) fydd yn ennill.

Mapio Tryweryn

Mapio Tryweryn

Tryweryn

Mae’n 50 mlynedd ers i Gorfforaeth Tref Lerpwl foddi cwm Tryweryn, gan suddo pentref Capel Celyn a nifer o ffermydd cyfagos. Cliciwch yma i gael yr hanes i gyd ar Wicipedia – linc

Mae’r map rhyngweithiol yma yn dangos be gafodd ei golli o dan y dŵr. (cliciwch ar y llun isod i agor y map)

It’s been 50 years since the Tryweryn valley and the village of Capel Celyn were drowned by the City Of Liverpool Corporation to create a reservoir. The full history can be read on Wikipedia – link

The interactive map below shows what was lost under the waters (click to open a full screen map)

Tryweryn

Tryweryn

Cymru v Wrwgwai Ar Twitter

Cymru v Wrwgwai Ar Twitter

Rygbi ar Twitter

Sbel yn ôl, mi wnes i drio defnyddio data twitter i ddadansoddi pa ddiwrnod o’r Eisteddfod oedd fwyaf poblogaidd. Y syniad oedd monitro pryd roedd pobl n defnyddio’r hashnodau eisteddfodol.
Y tro yma, nesi ddefnyddio’r un fethodoleg i fapio allan gem Rygbi Cymru vs Wrwgwai. Nes i benderfynu defnyddio’r hashnod #WAL – gan mai hwnnw ydi’r un swyddogol ar gyfer y gystadleuaeth.

Yr Eisteddfod ar Twitter

Yr Eisteddfod ar Twitter

Data Eisteddfodol

Mae’r cyfrif twitter @TwitterData yn arbenigo ar ddadansoddi a dehongli data twitter yn ystod digwyddiadau mawr fel y gemau Olympaidd a’r elecsiwn.

Dwi ‘di bod yn chware o gwmpas gyda data twitter ers sbel, a meddyliais sa’n arbrawf diddorol trio gwneud yr un math o ddehongliad ar ddigwyddiad yma yng Nghymru – a pha ddigwyddiad gwell na’r Eisteddfod!

5 of 8
12345678