Perfformiad Paneli Solar
Paneli Solar
Yn gyntaf – ymddiheuriadau mod i heb ddiweddaru’r blog ers sbel. Mae’n adeg reit brysur arnaf i ar hyn o bryd, ond dwi’n gobeithio bydd gennai ychydig mwy o amser nawr i adio cynnwys i’r wefan.
Un o’r prif resymau am ddiffyg amser yw’r tŷ dwi ‘di bod yn ei atgyweirio ers pedair blynedd y tu allan i Gaernarfon. Mae ‘na lwyth o waith dal ar ôl i wneud, ond dwi’n teimlo mod i’n cychwyn gweld y diwedd nawr!
Pan brynais y tŷ, y dasg gyntaf oedd ail-wneud y to gwreiddiol o’r 30au. Mi wnes i gymryd y cyfle yma i osod paneli solar “inset” yn y to. AM gyfnod hir iawn wedyn. Mi fues i’n cadw llygad ar faint o unedau pŵer oedd y paneli yn eu creu.