Perfformiad Paneli Solar

Paneli Solar

Yn gyntaf – ymddiheuriadau mod i heb ddiweddaru’r blog ers sbel. Mae’n adeg reit brysur arnaf i ar hyn o bryd, ond dwi’n gobeithio bydd gennai ychydig mwy o amser nawr i adio cynnwys i’r wefan.

Un o’r prif resymau am ddiffyg amser yw’r tŷ dwi ‘di bod yn ei atgyweirio ers pedair blynedd y tu allan i Gaernarfon. Mae ‘na lwyth o waith dal ar ôl i wneud, ond dwi’n teimlo mod i’n cychwyn gweld y diwedd nawr!

Pan brynais y tŷ, y dasg gyntaf oedd ail-wneud y to gwreiddiol o’r 30au. Mi wnes i gymryd y cyfle yma i osod paneli solar “inset” yn y to. AM gyfnod hir iawn wedyn. Mi fues i’n cadw llygad ar faint o unedau pŵer oedd y paneli yn eu creu.

Data Solar 2012-2014

Dwi wedi casglu’r data yn y siart isod, rhag ofn fydd o’n ddefnyddiol neu ddiddorol i unrhyw un sy’n meddwl gosod paneli. Mae’n dangos bod hyd yn oed Gogledd Cymru yn cael digon o haul i wneud paneli Solar yn opsiwn realistig! (mae’r data yn gyfartaledd o ddarlleniadau o Ionawr 2012 hyd at Mai 2014)

Darlleniad Uchaf / Isaf

Y perfformiad goraf dwi wedi gael hyd yn hyn yw 18.2 uned mewn un diwrnod, nol yn Mai 2012.

Y perfformid salaf, oedd ffigwr pitw o 0.18 uned, yn Ionawr yr un flwyddyn!