Parc Padarn Llanberis
Ychydig o luniau o un o’r llwybrau ym Mharc Padarn, Llanberis sydd yn mynd drwy’r coedwig Alltwen uwchben y llyn.
Mae sawl llwybr yn mynd drwy’r coed, a mae modd cychwyn y rhan fwyaf ger yr hen ysbyty
Dilyn y llwybr melyn nes i, mwy drwy ddamwain na dewis!
Ma na ddipyn o ddringo ar y llwybr yma, ond mae’n dod a ni at raeadr bach cwl yn y diwedd
Ymysg y coed, yn ailgylchu yr hen frigau a bonion oedd wedi disgyn, roedd llwyth o fadarch a ffwng gwahanol
Hwyl
Dafydd