Perfformiad TGAU Cymru
Blog bach sydyn iawn heddiw!
Ddoe (12/1/16) mi ddarllenais erthygl ar wefan y BBC yn sôn am yr effaith mae lle mae’r plant yn mynd i’r ysgol yn ei gael ar eu canlyniadau TGAU. Roedd y stori yn sôn am y “North-South divide”, a chrybwyll bod ffactorau daearyddol yn gallu chwarae rhan yn y dadansoddiadau.
(Linc i’r erthygl yma: clic)
Roedd yr erthygl wedi mapio’r canlyniadau fesul ardal yn Lloegr, gan eu lliwio yn ôl y gwahaniaeth rhyngddynt a’r canran gyrhaeddodd y nod ar gyfartaledd drwy’r wlad.
Dim ond data Lloegr oedd wedi cael ei ddefnyddio, ac roedd y map yn edrych yn rhyfedd heb Cymru, felly es i ati i’w ail-greu.
Data
Mae’r data ar gyfer perfformiad TGAU ysgolion i’w cael ar wefan StatsCymru (linc). Yn ôl y data, mae cyfartaledd Cymru yn uwch na Lloegr, ar 57.9% (56.6% yn Lloegr). Cymharais berfformiad pob sir wedyn yn erbyn y cyfartaledd, a dyma’r canlyniad:
O ran perfformiad, y pump uchaf oedd:
Sir Fynwy – 66.9%
Bro Morganwg – 64.9%
Abertawe – 64%
Powys – 63.9%
Gwynedd – 63.3%
Y pump isaf oedd:
Blaenau Gwent – 47.7%
Merthyr Tydful – 51.9%
Wrecsam – 52.1%
Caerffilli – 52.6%
Conwy – 54.2%
Map Mawr
Gan fod y cyfartaledd yn llai yn Lloegr, a gan fy mod isio cyfuno’r ddau fap, roedd rhaid i mi addasu’r map uchod rhywfaint, i fesur y gwahaniaeth rhwng canran siroedd Cymru a chyfartaledd Lloegr. Dyma’r canlyniad:
Wrth gymharu perfformiad siroedd Cymru yn erbyn cyfartaledd Lloegr, mae Blaenau (yr unig un dros 10% yn llai na’r cyfartaledd yma yng Nghymru) nawr yn codi i’r grŵp rhwng -5% a -10%!
Hwyl am y tro 🙂