Cymharu Perfformiad Ysgol Plant Cymraeg a Di-gymraeg
Yn ddiweddar mi ddes i ar draws adroddiad diddorol gan lywodraeth Cymru yn cymharu perfformaid ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Ond, roedd yr adroddiad yn edrych ar fwy na iaith yr ysgolion, roeddynt hefyd yn edrych ar iaith y plant. Dwi wedi trio crynhoi rhai o’r prif ganlyniadau yma.
Yr Adroddiad
Mae’r adroddiad gwreiddiol ar gael yn adran adroddiadau ad-hoc y llywodraeth – Linc. (linc i’r ddogfen Excel gwreidiol yma – linc)
Mae’r data wedi ei rannu i fyny i oedrannau 6-7 (key stage 1) ac oedrannau 7-11 (key stage 2), ac mae’n canolbwyntio ar fathemateg a gwyddoniaeth. Edrychwyd ar ganrannau’r myfyrwyr a gyrhaeddodd y nod disgwyliedig yn y pynciau.
(Nodyn – i’r grŵp oedran 6-7, mae’r canlyniadau gwyddoniaeth ar gyfer 20012-2014 wedi eu cyfuno gyda phynciau eraill, ond ar gyfer y dadansoddiad arwynebol yma, dwi wedi cymryd canran i gynrychioli gwyddoniaeth).
Mae’r data wedi ei rannu i fyny yn ôl iaith yr ysgol ac iaith y disgybl.
Canlyniadau
Mae’r graffiau isod yn dangos y canlyniadau i’r pynciau ar gyfer yr oedrannau gwahanol.
Data Oedran 6 i 7 – Mathemateg
Wrth edrych ar y data dros y cyfnod, mae’n bosib gweld bod ysgolion cyfrwng Cymraeg yn perfformio’n well nag ysgolion cyfrwng Saesneg pob blwyddyn – ar gyfartaledd, mae 88.9% o ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cyrraedd y nod mewn mathemateg, i gymharu â 87.6% dros yr un cyfnod mewn ysgolion Saesneg.
Mae’r graff isod yn dangos, ar gyfartaledd, perfformiad pob disgyblion pob iaith ymhob ysgol.
Y disgyblion mwyaf llwyddiannus yw’r disgyblion sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Gymraeg (91.6% yn cyrraedd yn nod ar gyfartaledd). Y grŵp lleiaf llwyddiannus yw’r disgyblion di-gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg (87.1% ar gyfartaledd). Ond, yn rhyfedd iawn, mae disgyblion iaith Cymraeg yn perfformio’n well yn yr ysgolion Saesneg na’r disgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith gyntaf! (90.1% i gymharu hefo 87.6%).
Data Oedran 6 i 7 – Gwyddoniaeth
Mae’r data canlyniadau gwyddoniaeth yn adlewyrchu’r un patrwm a’r canlyniadau mathemateg, gydag ysgolion cyfrwng Gymraeg yn perfformio’n well nag ysgolion cyfrwng Saesneg dros y cyfnod (92.7% i gymharu â 91.4%).
Dyma’r siart ar gyfer pob grŵp ar gyfer gwyddoniaeth.
Eto, mae’r un patrwm i weld, gyda phlant sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion Cymraeg yn perfformio orau, gyda 94.9% yn cyrraedd y nod, a disgyblion di-gymraeg mewn ysgolion Cymraeg yn perfformio isaf, gyda 91.2%. Y tro yma hefyd, da ni’n gweld disgyblion iaith Gymraeg yn perfformio’n well mewn ysgolion Saesneg, na disgyblion di-gymraeg (93.5% i gymharu gyda 91.4%).
Data Oedran 7 i 11 – Mathemateg
Mae’r siart isod yn dangos y canlyniadau ar gyfartaledd ar gyfer oedran Key Stage 2 mewn mathemateg.
Mae’r canlyniadau oedrannau yma yn dilyn yr un patrwm a’r disgyblion iau, gyda phlant sy’n siarad Cymraeg adra yn perfformio orau (89.6% yn cyrraedd y nod), ac yn well na phlant o gartrefi di-gymraeg mewn ysgolion Saesneg (86.7% yn erbyn 85.3%).
Data Oedran 7 i 11 – Gwyddoniaeth
Yn olaf, mae’r siart isod yn dangos y canlyniadau ar gyfartaledd ar gyfer oedran Key Stage 2 mewn gwyddoniaeth.
Eto, yr un patrwm sydd yn ymddangos. Mae’r disgyblion o gartrefi Cymraeg yn perfformio’n well mewn ysgolion Cymraeg ac Ysgolion Saesneg.
Anfantais i Blant Di-Gymraeg?
Ydi perfformiad gwell y disgyblion sy’n siarad Cymraeg adref yn adlewyrchu rhyw anfantais i blant o gartrefi Saesneg? (mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ei grybwyll yn aml – bod dysgu Cymraeg/addysg Gymraeg yn creu anfanteision).
Os fysa hynna’n wir, dyla’ canrannau o blant o gartrefi di-gymraeg sydd yn cyrraedd y nod fod yn llawer uwch yn yr ysgolion Saesneg na’r ysgolion Cymraeg. Ond, dyw’r data ddim yn adlewyrchu hyn.
Yn yr oed 6-7, dim ond 0.5% o yn fwy o blant di-gymraeg yn llwyddo mewn Mathemateg, a 0.2% yn llwyddo mewn Gwyddoniaeth mewn ysgolion Saesneg.
Mae’r canlyniadau ar gyfer disgyblion yn llwyr chwalu’r syniad yma, gan fod y disgyblion di-gymraeg wedi perfformio’n well o fymryn yn y ddau bwnc mewn ysgolion Cymraeg, nac mewn ysgolion Saesneg!! (85.4% i 85.3% ym Mathemateg ac 88.4% i 88% mewn Gwyddoniaeth).
Pam Bod Mwy o Ddisgyblion Cymraeg Yn Cyrraedd y Nod?
Drwy gydol dadansoddiad yma, da ni wedi gweld disgyblion o gartrefi Cymraeg yn perfformio’n well na’u cyd ddisgyblion o gartrefi di-gymraeg, hyd yn oed mewn ysgolion Saesneg. Y cwestiwn yw pam?
Yn anffodus, dyw’r data yma yn rhoi dim esboniad, ond mae sawl theori yn bodoli yn edrych a datgan manteision o ddwyieithrwydd (llwyth o wybodaeth a dolenni ar y linc wikipedia yma – linc).
Ydi’r canlyniadau yma yn atgyfnerthu’r syniad yma? Yn fras, yndi, ond rhaid cofio mai dim ond ffigyrau ar gyfer dau bwnc yn unig yw’r rhain. Mi fysa rhaid ystyried y canlyniadau ar draws y cwricwlwm cyfan, a dros gyfnod helaeth cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol.
Ond un peth sydd yn glir – nid yw addysg cyfrwng Cymraeg, nac ysgolion Cymraeg yn rhoi unrhyw un, boed y plentyn o gartref Cymraeg neu ddi-gymraeg, dan anfantais.
Mae arnaf ofn fy mod yn gweld llawer o ddiffygion yn hwn. Er enghraifft, mae natur ‘ysgol Gymraeg’ yn amrywio gormod o ardal i ardal i fod yn sail i ddadansoddiad dibynadwy, ac mae cefndir y disgyblion – eu cefndir sosioeconomaidd, eu hethnigrwydd a/neu hunaniaeth genedlaethol – yn ogystal â’u cefndir sosioiethyddol, i gyd angen eu hystyried. Mae eisiau dadansoddiad aml-lefel gan ddefnyddio data ar lefel disgybl i wneud cyfiawnder â’r pwnc. Gall ddadansoddiad simplistig fel hyn fod yn fêl ar fysedd rhai sy’n wrthwynebus i addysg Gymraeg.
Helo Hywel, sut hwyl?
Cytuno’n llwyr gyda’r pwyntiau, a dwi’n cytuno mai dim ond dadansoddiad arwynebol yw hwn, a dwi’n crybwyll hyna yn y blog.
Da fysa cael data llawn, am sawl pwnc, a gyda manylion yr ysgolion – ond di’r data ddim i weld ar gael. (yn wir, wedi darganfod yr adroddiad yma mewn rhestr ad-hoc nes i!)
I mi, dylai’r llywodraeth,neu well, gorff proffesiynol annibynnol greu’r math yma o adroddiadau a dadansoddiadau i ni gael ei gweld. Gyda etholiadau ar y gorwel, mi fysa’n gyfle da i rhywun gael rhoi chwyddwydr ar ffigyrau y partion i gael gweld beth yw’r gwir, a beth yw’r sbin! 🙂
Hwyl
Dafydd