Prisiau Tai Cymru – Rhan 2
Prisiau Tai Cymru – Rhan 2
Yn y post olaf ar y blog (Linc Rhan 1) fues i’n defnyddio data’r gofrestrfa tir i edrych ar y farchnad tai yng Nghymru dros y cyfnod 2007 i 2014. Erbyn hyn, dwi wedi cael mwy o amser i ddadansoddi’r data i lawr i lefel ward, a drwy ddefnyddio data cyflogau, trio darganfod ble mae’r ardaloedd fwyaf fforddiadwy ac anfforddiadwy yng Nghymru.
Prisiau Tai Fesul Ward 2007 i 2013
Ar gyfer y dadansoddiad lefel ward yma – nes i benderfynu cymharu 2007 a 2013, gan mai dyna’r flwyddyn llawn olaf sydd ar gael. Mae’r mapiau isod yn cymharu’r prisiau ar gyfartaledd rhwng wardiau Cymru yn 2007 a 2013.
I gael fersiwn rhyngweithiol o’r map – cliciwch y llun isod (mae’n gallu cymryd sbel i lwytho)
Y tuedd yw colled o 10% ar brisiau tai rhwng 07-13, ond mae’r amrediad yn eang, gyda ward Llanbadarn Fawr yn ennill fwyaf, gyda chynnydd o 38% ar bris 2007, a ward Llanbadog druan i lawr 58% dros yr un cyfnod.
Mae’r graffiau isod yn dangos y 10 ward uchaf ac isaf o ran prisiau tai yn 2007 ac 2013 (cliciwch ar y bars am enw’r ward)
Mae’r un wardiau yn ymddangos yn 2007 a 2013, gyda wardiau Abersoch, Llandeilo Gresynni, Llysfaen, Llanbedr-y-fro, Llangybi Fawr a Tryleg Unedig ymhlith y wardiau uchaf, a wardiau’r Maerdy, Treherbert, Penrhiw-ceiber, Pendyrys, Gwynfi a Chwm Clydach ymhlith y wardiau isaf.
Cyflogau Cymru
Er mwyn cael gwybod ym mha pa mor fforddiadwy ydi’r wardiau, da ni angen gwybod pa gyflog mae pobl yn eu cael yno. Dyw’r data yna ddim ar gael ar lefel ward – ond mae’r llywodraeth – drwy’r wefan StatsWales – yn cyhoeddi’r ffigyrau am gyflogau ar gyfartaledd pob sir. Mae’r mapiau isod yn dangos y cyflog blynyddol i bob sir yn 2007 a 2013.
Mae cynnydd clir i – gyda’r twf ar gyfartaledd yn y siart isod.
Ond, er bod cyflogau wedi codi – dyw’r cynnydd ddim wedi ei rannu’n hafal ar draws pob sir. Mae’r graff yma’n dangos y gwahaniaeth yn y twf rhwng 2007 – 2013.
Y Wardiau Fforddiadwy
Gyda’r data am brisiau tai a chyflogaeth pob ward – fedrwn ni nawr gyfrifo pa mor fforddiadwy yw’r tai yno.
Yn syml, dwi wedi cyfrifo faint o gyflog blynyddol fydd angen i brynu ty yn y ward h.y. maint y morgais dydd ei angen. (dwi wedi cymryd bod gan yr ymgeiswyr flaendal o 10% yn barod ac wedi tynnu’r swm yna o’r cyfanswm).
Mae’r mapiau isod yn dangos y canlyniadau ar gyfer 2007 a 2013.
Eto, mae’n hawdd gweld bod mwy o wardiau wedi dod yn fforddiadwy ers 2007 – cyfuniad o brisiau tai yn mynd lawr a chyflogau yn codi. Er hyn, mae nifer helaeth o wardiau dal allan o afael y rhan fwyaf ohonom ni, gyda phrisiau tai nifer o wardiau yn fwy na 5.5 gwaith cyflog y sir!
Mae’r siartiau isod yn dangos y niferoedd y wardiau ymhob grŵp yn ystod y ddau gyfnod.
Be am y dyfodol? Yn y tymor byr, mae’r cynnydd ym mhrisiau tai Cymru dal yn weddol isel, gyda chynnydd o ddim ond 1.4% rhwng 2012-2013. Yn yr un cyfnod, cododd gyflogau 3.5% ar gyfartaledd.
Heb wybod be fydd y ffigyrau ar gyfer 2014, mae’n awgrymu y bydd mwy o wardiau yn dod i’r lefelau fforddiadwy.
Yn yr hir dymor, gall pethau newid. Mae rhai ardaloedd o Loegr wedi gweld cynnydd mawr ym mhrisiau tai – nifer yn uwch na phrisiau 2007. Y peryg yw bydd hyn yn treiddio i lawr i’r farchnad yng Nghymry dros amser, ac wedyn, bydd prisiau tai yn codi yn gynt na chyflogau eto, gan lusgo’r farchnad yn ôl i lefelau 2007.
Mi wnâi ail edrych ar y ffigyrau ar ddiwedd y flwyddyn i weld sut mae pethau’n siapio. Gadewch i mi wybod os fyswch chi’n hoffi gweld unrhyw ddadansoddiad arall gyda’r data tai yma.
Hwyl
Dafydd