Cymraeg

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Hunaniaeth Vs Gwlad Geni

Nawr bod yr ONS yn cychwyn rhyddhau data Cyfrifiad 2021, dwi wedi bod yn mapio y ffigyrau newydd.

Un o’r rhai cyntaf oedd map yn dangos canran y poblogaeth a aned yng Nghymru:

Y syniad oedd trio creu rhyw fath o fraslun o fewnfudo yng Nghymru.

Map OS Cymraeg

Map OS Cymraeg

Ers ychydig nawr, pan dwi’n cael rhyw bum munud sbâr, dwi wedi bod yn cyfieithu data map Miniscale yr Ordnance Survey i Gymraeg (wel, y darnau yng Nghymru o leiaf)

Mae’r data MiniScale i gael am ddim dan drwydded data agored OS (linc), Yr oll dwi wedi gwneud ydi cyfieithu’r labeli enwau i Gymraeg.

#DespiteBeingTaughtInWelsh – Dilyn y Trend

Pan gyhoeddodd @WalesOnline erthygl yn rhyfeddu bod Jamie Roberts wedi llwyddo bod yn ddoctor, er bod o wedi cael addysg Gymraeg, chymerodd hi fawr o amser i ddefnyddwyr twitter frwydro yn ôl, gan amddiffyn addysg Gymraeg, a chwestiynu addysg newyddiadurwyr @WalesOnline!

Yng nghanol yr ymatebion yma, fe aned y hashnod #DespiteBeingTaughtInWelsh fel ymateb gwych i’r hyn oedd yn cael ei honni (bod addysg Cymraeg yn wael). O fewn dim, roedd #DespiteBeingTaughtInWelsh yn trendio ar twitter. Erbyn y diwedd, roedd ar y rhestr trendio uchaf drwy Brydain.

Cymharu Perfformiad Ysgol Plant Cymraeg a Di-gymraeg

Cymharu Perfformiad Ysgol Plant Cymraeg a Di-gymraeg

Yn ddiweddar mi ddes i ar draws adroddiad diddorol gan lywodraeth Cymru yn cymharu perfformaid ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Ond, roedd yr adroddiad yn edrych ar fwy na iaith yr ysgolion, roeddynt hefyd yn edrych ar iaith y plant. Dwi wedi trio crynhoi rhai o’r prif ganlyniadau yma.

API Data “Ar Y Dydd Hwn…” Wicipedia Cymraeg

Casglu Data Gyda YQL

Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn chware o gwmpas gydag adnodd datblygu YQL gan Yahoo (https://developer.yahoo.com/yql/). Mae’n galluogi ni ddefnyddio iaith debyg iawn i SQL i dynnu data allan o wefannau ayyb.

Mae’n werth trio allan y consol datblygu i gael gweld sut mae’n gweithio (https://developer.yahoo.com/yql/console/)

Ar ôl chware o gwmpas gyda’r consol – mi es ati i chwilio am brosiect diddorol ar ei gyfer.

Datblygiad Y Gymraeg Ar Twitter

Datblygiad Y Gymraeg Ar Twitter – Data Techiaith

Wrth bori drwy twitter ychydig yn ôl, ddes i ar draws y neges yma gan @techiaith

Techiaith yw Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr ym Mangor sydd yn gweithio i ddatblygu adnoddau Cymraeg (e.e. Cysgair a Cysill). Un o’r adnoddau fwyaf newydd yw’r corpws data twitter– sef swmp anferth o dwîts Cymraeg wedi eu casglu ers 2007. (Linc – http://techiaith.org/corpora/twitter/)

Penderfynais weld pa fath o ddadansoddiadau oedd posib eu creu gyda’r data yma.