ffotograffiaeth

Parc Glynllifon

Yn ddiweddar, es i yn ôl i Glynllifon i gerdded am tro cyntaf ers y clo mawr. Mae’n le bach braf i fynd, gyda llwybrau sy’n dilyn yr afon a drwy’r coed. Dwi’n trio ail-gydio yn y camera a mynd allan i dynnu mwy o luniau (a rhoi stwff ar y blog ma!).

Am Dro – Capel Celyn

Am Dro – Capel Celyn

Capel Celyn

Yn dilyn y cyfnod tywydd sych ‘ma da ni wedi gael yng Nghymru yn ddiweddar, mae lefel y dŵr yng nghronfa Llyn Celyn wedi disgyn yn sylweddol. Ar ôl gweld lluniau gwych gan sawl un ar y we, mi es am dro lawr i weld fy hun. Er bod lefel y dŵr wedi cychwyn codi, roedd o dal yn brofiad rhyfedd.

Rhaeadr Fawr – Abergwyngregyn

Os am daith gerdded go sidet – mae’r llwybr i fynu i’r Rhaeadr Mawr uwchben Abergwyngregyn yn berffaith. Mae’r llwybr llydan yn cychwyn o’r Bont Newydd, ac yn dringo’n ddiog i fynu dyffryn Afon Rheadr Mawr i droed y rheadr.