
Yr Eisteddfod ar Twitter
Data Eisteddfodol
Mae’r cyfrif twitter @TwitterData yn arbenigo ar ddadansoddi a dehongli data twitter yn ystod digwyddiadau mawr fel y gemau Olympaidd a’r elecsiwn.
Dwi ‘di bod yn chware o gwmpas gyda data twitter ers sbel, a meddyliais sa’n arbrawf diddorol trio gwneud yr un math o ddehongliad ar ddigwyddiad yma yng Nghymru – a pha ddigwyddiad gwell na’r Eisteddfod!
Y syniad yn fras oedd casglu’r holl twîts sy’n crybwyll yr eisteddfod at ei gilydd, a gweld pa batrwm ddaeth i’r golwg.
Dwi ddim wedi dadansoddi cynnwys y twîts, heblaw am yr hashnodau – yn syml iawn, does gen i’m amser i drio categoreiddio dros 7000 o dwîts unigol:)!
Hashnodau
Y broblem gyntaf oedd penderfynu am beth i chwilio! Hashnod swyddogol yr eisteddfod oedd #steddfod2015, ond mi welais amryw gwahanol yn cael eu defnyddio wrth edrych drwy fy llif am hanes yr eisteddfod. Yn y diwedd– mi benderfynais chwilio am yr hashnodau isod:
- #steddfod2015
- #steddfod
- #eisteddfod2015
- #eisteddfod
Drwy ddefnyddio API twitter, mi ges i 7654 twît unigol oedd yn cynnwys o leiaf un o’r hashnodau uchod, a gafodd eu creu yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Dyma’r rhaniad hashnodau:
Mae’r ffaith bod y fersiwn swyddogol yn cynrychioli bron iawn i dri-chwarter y cyfanswm yn dangos bod criw’r Eisteddfod wedi bod yn llwyddiannus iawn yn codi ymwybyddiaeth o’r hashnod.
Nifer Twît Y Diwrnod
Mae’r graff cyntaf yma yn dangos nifer y twîts yn ystod diwrnodau’r Eisteddfod (pinc oherwydd y babell wrth gwrs!)
Mae’n codi o’r penwythnos yn raddol i’r uchafbwynt ar ddydd Mercher.
Yn diddorol, mae’r ffigyrau ymwelwyr (Ffigyrau Ymwelwyr)yn dangos mai cynyddu at uchafbwynt dydd Gwener mae’r niferoedd. Efallai bod y novelty o dwîtio o’r Eisteddfod wedi gwisgo allan erbyn diwedd yr wythnos! 🙂
Twît Yr Awr Ar Gyfartaledd
Mae’r ail graff yma’n dangos nifer twît ar gyfartaledd pob awr.
Mae’r niferoedd uchaf yn ystod y bore, rhwng 9-10. Efallai bod pawb yn gyrru neges yn datgan eu bod yn yr Eisteddfod y diwrnod yna?
Er hyn – uchafbwynt yr wythnos oedd rhwng 19:00 – 20:00 ar nos Fercher, gyda 134 twît yn cael eu gyrru.
Mae’r niferoedd hefyd yn codi ychydig 20:00 – tybed os mai gigs gyda’r nos oedd yn gyfrifol am hyn?
Diwrnodau Unigol
Dyma’r data ar gyfer y diwrnodau unigol:
01/08/2015
02/08/2015
03/08/2015
04/08/2015
05/08/2015
06/08/2015
07/08/2015
08/08/2015
Canlyniad
Ar y cyfan, dwi’n eithaf hapus gyda’r arbrawf. Mae’r API sydd ar gael gan twitter yn galluogi ni adalw pob math o ddata – a dwi’n meddwl fod sgôp creu dehongliad manwl iawn gyda mwy o amser. Y cam nesaf yw trio awtomeiddio’r broses, fel bod y data yn cael ei gasglu heb orfodi fi i eistedd yn syllu ar y sgrin am oriau! Efallai fedrai brofi’r system yn ystod y Rygbi!
Hwyl
Dafydd